Anadlu’n Haws: Cynllun arobryn i Leihau Allyriadau

Mae cyllid gan Ganolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil i Fusnesau Bach (SBRI) ac Arloesedd Iechyd Llywodraeth Cymru wedi galluogi timau clinigol ledled Cymru i gyd-ddatblygu menter newydd arobryn i leihau allyriadau niweidiol Ocsid Nitrus ac Entonox. Mae’n gynllun sydd yn symud GIG Cymru yn nes at ei darged di-garbon erbyn 2030 tra’n cynnig dull lliniaru poen priodol i famau wrth esgor eu babi.

Cefndir

Mae’r Adroddiad Iechyd Heb Niwed yn dangos bod 5.6% o allyriadau’r DU yn dod o’r sector iechyd. Mae argyfwng hinsawdd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a chyhoeddwyd hefyd Cynllun Datgarboneiddio GIG Cymru yn nodi y bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae’r cynllun uchelgeisiol hwn yn targedu nwyon anesthetig yn benodol ac yn cynnwys ocsid nitrus sydd â photensial cynhesu byd-eang sydd tua 298 gwaith yn fwy na charbon deuocsid.

Mae’r anesthetydd ymgynghorol Charlotte Oliver a’r Rheolwr Fferyllfa Elaine Lewis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ill dwy yn angerddol eu hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac yn chwarae eu rhan i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd eu targed sero net trwy nifer o brosiectau ac ymgyrchoedd, gan gefnogi’r GIG yn eu huchelgais i ddarparu gofal iechyd mwy cynaliadwy.

Un o’r prosiectau hynny yw’r Prosiect Ocsid Nitrus a oedd yn anelu at leihau effaith amgylcheddol ac ariannol y bwrdd iechyd trwy ddarparu ocsid nitrus anaesthetig i’r wardiau mewn silindrau symudol yn hytrach na thrwy’r system pibellau hŷn, gan arbed tua 1 miliwn litr o ocsid nitrus y flwyddyn, sy’n gyfwerth â 535 tunnell o CO2.

Yr her

Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwnnw, cysylltwyd â Chanolfan Ragoriaeth SBRI gan gyflwyno her; er gwaethaf y newid i silindrau ocsid nitrus llai a oedd yn amlwg yn fwy effeithlon, roedd y defnydd o Entonox (50% ocsigen, 50% ocsid nitrus), yn bennaf gan fenywod i liniaru poen tra’n esgor, yn parhau yn uchel. Pan mae’r nwy yma’n cael ei ddefnyddio, caiff ei anadlu allan i’r amgylchedd, ar y cyfan heb ei fetaboleiddio. Roedden nhw eisiau dod o hyd i ateb a fyddai’n cynnig datrysiad fforddiadwy a chystadleuol o ran pris i leihau allyriadau ocsid nitrus niweidiol a gwella ansawdd aer yn yr ystafelloedd esgor ar wardiau geni.

Ym mis Tachwedd 2022, gwnaeth y Ganolfan SBRI alwad agored i’r diwydiant a’r byd academaidd, ar gyfer Her SBRI, gan gynnig cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, i ddod o hyd i atebion arloesol a fyddai’n arwain at ‘Waredu Ocsid Nitrus a Nwyon Meddygol Entonox yn ddiogel ac yn foesegol’.

Yr Ateb

Ar ôl proses ddewis cystadleuol, dyfarnwyd cyllid contract ar gyfer datblygiad peiriant N2O Clear i e-Breathe yn Belfast, Gogledd Iwerddon. Dechreuodd y gwaith yn gynnar yn 2023, o’r dichonoldeb cychwynnol i’r dylunio llawn ac adeiladu prototeip gweithredol. Rheolwyd y Tîm Prosiect ar draws Cymru gan Ganolfan SBRI, gan ddarparu mewnbwn clinigol rheolaidd a chyfarwyddyd i’r cyflenwr dros y 18 mis o ddatblygiad i greu rhywbeth fyddai’n ateb y gofyn ac yn addas i’r diben. Yn Awst 2024 cyflwynwyd y peiriant ar gyfer ei brofi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ar gyfer prawf pellach.

Mae N2O Clear yn dinistrio >99% o ocsid nitrws a anadlir allan, a’i droi’n folecylau ocsigen a nitrogen sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Mae’r peiriant wedi’i ardystio ar gyfer defnydd yn y DU ac yn yr UE; mae wedi ei brofi’n drwyadl yn drydanol yn fecanyddol ac ar gyfer electromagnetedd, ac wedi derbyn ardystiadau UKCA a CE.

Diolch i fewnbwn gofalus gan y tîm, mae’r cynnyrch yn syml i’w ddefnyddio, yn dawel, ac yn effeithiol o ran defnydd egni. Mae’r gost o’i redeg yn isel, mae’n hawdd i’w lanhau, i atal heintiau. Mae hefyd yn cael ei gynhyrchu gyda phwyslais ar gynaliadwyedd – mae dros 80% o’i ddeunyddiau yn rai y gellir eu hailgylchu.

Ymateb

Mae staff a chleifion fel ei gilydd wedi ymateb yn frwd i’r peiriant, gan nodi’r effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd a’u lles eu hunain, yn ogystal â gwell gofal i gleifion a dulliau lleddfu poen cynaliadwy. Mae’r prosiect wedi annog sgyrsiau am leihau ôl troed carbon y GIG, codi ymwybyddiaeth, a meithrin agwedd gadarnhaol tuag at ofal iechyd cynaliadwy a’r manteision sydd i bawb.

Ym mis Hydref 2024, enillodd e-Breathe Wobr INVENT 2024 Green Horizons, a drefnwyd gan Catalyst gyda Bank of Ireland, yn brif bartner. Mae INVENT yn dathlu ‘ein hentrepreneuriaid mwyaf cyffrous’ am y gwaith o ddatblygu N2O Clear.

Dywedodd Charlotte Oliver, Arweinydd Prosiect, “Roedd y gefnogaeth gan Faye, Lynda a phob aelod o dîm SBRI yn rhagorol. Dydw i erioed wedi rheoli prosiect o’r raddfa, uchelgais na’r lefel ariannu yma o’r blaen ac rydw i yn bersonol wedi dysgu cymaint o’r profiad. Roeddwn i’n teimlo’n bryderus ar ddechrau’r prosiect, ond rydw wedi cael cymaint o gefnogaeth drwy gydol y daith. Rydym wedi cyflawni’n union yr hyn oeddwn wedi bwriadu ei wneud ac yn credu y bydd newid parhaol yn y ffordd y mae’r GIG yn lliniaru ei Allyriadau Carbon cwmpas 1 o ganlyniad i’r prosiect hwn. Mae’r prosiect wedi llwyddo tu hwnt i bob disgwyl, mae SBRI yn adnodd gwych ar gyfer GIG Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu gwasanaethau yn y dyfodol.”

Y Camau Nesaf

Mae’r cynnyrch eisoes wedi denu sylw cadarnhaol gan fyrddau iechyd a dosbarthwyr; mae’r tîm wrthi’n cynllunio’r camau nesaf o ran graddfa a lledaeniad ar draws Cymru a thu hwnt, ac yn archwilio cyfleoedd ar gyfer treialon cydweithredol mewn mannau eraill yn y DU.

Dywedodd David McLaughlin, Cyfarwyddwr e-Breathe Ltd, “Mae gweithio gyda tîm SBRI wedi cynnig cyfle hynod werthfawr i ddefnyddwyr go iawn brofi’r adnodd a allai helpu i ffurfio datblygiadau’r cynnyrch ymhellach mewn ffyrdd sydd yn diwallu eu hanghenion gwirioneddol. Mae’r prosiect hwn wedi agor y drws i’r posibilrwydd o fynd â’r cynnyrch drwy gamau masnachol llawn, gan gynnwys marchnata, gweithgynhyrchu, gwerthu a gwasanaethu. Mae hefyd wedi darparu llwybr i dreialu’r cynnyrch o fewn y GIG a fyddai fel arall wedi bod yn anodd i ni fel cwmni bach.”

Cofrestrwch i’n rhwydwaith cydweithio

I gadw’n gyfredol gyda chyfleoedd cyllido, digwyddiadau a gweithio ochr yn ochr â phobl tebyg sydd â phasiwn go iawn am arloesi a gwella iechyd, cofrestrwch yma:

&