Cafodd atebion arloesol ar gyfer gwneud diagnosis canser yn fwy cyflym le amlwg yn nigwyddiad MediWales Connects 2025, pan fu dau gyflenwr arloesol Her Canser Canolfan Ragoriaeth SBRI yn trafod y cynnydd a wnaed yn eu prosiectau peilot.
Clywodd mynychwyr y digwyddiad am waith Qure.ai a Cyted Health, oedd ill dau wedi eu dewis drwy gystadleuaeth her arloesi, i brofi a graddio technolegau newydd gyda’r nod o gyflymu diagnosis a rheolaeth canser yng Nghymru – gyda Cyted hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae Qure.ai yn harneisio pŵer AI i gynorthwyo clinigwyr i ddehongli delweddau’r frest, er mwyn canfod canser yn gynt a blaenoriaethu achosion canser posibl yn well.
- Mae Cyted Health, trwy eu platfform EndoSign a thechnoleg sbwng capsiwl, yn ehangu mynediad at ddulliau diagnostig nad ydynt yn fewnwthiol ar gyfer cyflyrau fel canser yr oesoffagws, gyda’r potensial i leihau rhestrau aros ar gyfer endosgopi a gwella canlyniadau cleifion.
Tynnodd y sesiwn sylw at yr hyn sydd eisoes wedi’i ganfod o brofion mewn sefyllfaoedd go iawn o fewn byrddau iechyd Cymru, gyda chefnogaeth timau clinigol, arweinwyr digidol, a rheolwyr arloesi ar draws y GIG.
“Nid technoleg newydd yn unig a gyflwynwyd yn MediWales Connects, ond gwelwyd hefyd, mewn ffordd bwerus iawn, y rheswm pam rydyn ni’n gwneud hyn,” meddai Faye Williams, Rheolwr Prosiect Her Canser. “Dangosodd Qure.ai a Cyted botensial yr offer hyn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol; i gael diagnosis canser yn gynt, i leihau’r angen am weithredoedd mewnwthiol, a helpu pobl i gael y gofal sydd ei angen arnynt yn gynt. Dyna sydd wrth wraidd yr her hon – hybu arloesedd sy’n rhoi budd gwirioneddol i gleifion, clinigwyr, a’r GIG ehangach.”
Daeth MediWales Connects â chlinigwyr, arweinwyr polisi a diwydiant ynghyd am ddiwrnod o ddysgu a thrafod ar y cyd. Dangosodd y digwyddiad sut y gall cyllid ar gyfer arloesedd sydd wedi’i dargedu, fel Her Canser SBRI, sydd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â thîm Iechyd SBRI Gogledd Iwerddon, gyflymu’r broses o ganfod atebion sy’n cynnig cyfle i gael effaith wirioneddol ar gleifion ac i’r GIG.
Bydd Qure.ai a Cyted ill dau yn parhau â’u cynlluniau peilot, a bydd y canfyddiadau yn llywio modelau gwasanaeth a phenderfyniadau comisiynu mewn llwybrau canser ledled Cymru a Gogledd Iwerddon yn y dyfodol.


