Application Deadline20th Oct 2026

Lleihau Nifer yr Apwyntiadau a Fethir a Gwella Mynediad at Ofal a Gynlluniwyd

Trosolwg o’r Her 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn profi cyfraddau uchel a chyson o apwyntiadau cleifion allanol a fethir; methwyd oddeutu 64,000 o apwyntiadau yno dros y 12 mis diwethaf. Mae’r apwyntiadau a fethir yn creu heriau i gleifion a gwasanaethau, gan gyfrannu at amseroedd aros hirach, defnydd annigonol o gapasiti clinigol, aneffeithlonrwydd ariannol a phrofiadau salach i gleifion. 

Mae BIPCTM yn amcangyfrif y gallai apwyntiadau a fethir gyfrif am oddeutu £9.6 miliwn o werth a gollir ac y gellid ei osgoi bob blwyddyn; mae hyn yn gyfle sylweddol i wella mynediad i gleifion a’r defnydd o adnoddau’r GIG. 

Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd methu â dod i apwyntiadau aml yn gysylltiedig ag amrywiaeth o rwystrau ymarferol a rhwystrau o ran ymddygiadol, cyfathrebu ac hygyrchedd, yn hytrach na dim ond dewis peidio â mynd i apwyntiadau. Gall y rhwystrau hyn gynnwys heriau sy’n gysylltiedig â chyfathrebu apwyntiadau, cludiant, natur yr ardal ddaearyddol ,cyfrifoldebau gofalu, ffactorau economaidd-gymdeithasol, allgáu digidol, anghydraddoldebau iechyd a sut y caiff gwasanaethau eu dylunio.  

Mae Contractau ar gyfer Arloesi Cymru yn ceisio datrysiadau arloesol sy’n helpu pobl i oresgyn y rhwystrau hyn, gan leihau nifer y apwyntiadau a fethir a gwella mynediad at ofal wedi’i gynllunio ar yr un pryd. 

Mae’r her yn un benagored yn fwriadol, ac nid yw’n pennu technoleg, cynnyrch na gwasanaeth penodol. Rydym yn croesawu syniadau o ystod eang o sectorau a disgyblaethau, ac yn annog ymgeiswyr i feddwl yn greadigol am sut y gellir gwella presenoldeb, mynediad a phrofiad cleifion. 

Pam Mae Hyn yn Bwysig ar Hyn o Bryd 

Methir 64,000 o apwyntiadau cleifion allanol bob blwyddyn 

Cofnododd BIPCTM tua 64,000 o apwyntiadau cleifion allanol a fethwyd dros y 12 mis diwethaf, sy’n golled sylweddol o ran capasiti clinigol a chyfleoedd i gynnig gofal i gleifion.  

8.6% – cyfradd gyfartalog apwyntiadau cleifion allanol a fethir 

Mae apwyntiadau a fethir yn parhau i effeithio ar effeithlonrwydd gwasanaethau, yn cynyddu pwysau gweithredol ac yn cyfrannu at amseroedd aros hirach yn yr holl wasanaethau gofal wedi’i gynllunio;.  

Mae ystod o rwystrau rhyng-gysylltiedig yn dylanwadu ar bresenoldeb mewn apwyntiadau 

Mae tystiolaeth a gasglwyd gan BIPCTM yn dwyn sylw at ffactorau gan gynnwys cyfathrebu ynghylch apwyntiadau, heriau o ran cludiant a theithio, anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, allgáu digidol, cyfrifoldebau gofalu a phroblemau ehangach o ran hygyrchedd. Bydd y rhwystrau hyn yn aml yn rhyngweithio a gallant effeithio’n anghymesur ar rai cymunedau a grwpiau poblogaeth. 

Mae gwella presenoldeb mewn apwyntiadau yn amgenach na lleihau gwastraff 

Mae pob apwyntiad a gollir yn golygu colli cyfle i gynnig gofal. Mae BIPCTM yn amcangyfrif y gallai apwyntiadau cleifion allanol a fethir gyfrif am oddeutu £9.6 miliwn o werth a gollir ac y gellid ei osgoi bob blwyddyn, gan gyfrannu hefyd at oedi o ran cael diagnosis, triniaethau a mynegiad at wasanaethau. Gallai lleihau nifer yr apwyntiadau a fethir gynnig cyfle i ryddhau capasiti clinigol, gwella cynhyrchedd, cwtogi amseroedd aros a chynorthwyo i sicrhau mynediad tecach at ofal ledled Cymru. 

Y Cyfle 

Credwn y gall dulliau arloesol helpu pobl i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag mynd i apwyntiadau, gan alluogi gwasanaethau i wneud defnydd gwell o’r capasiti presennol a gwella mynediad at ofal i’r bobl y mae arnynt angen hynny yn fwy na neb. Mae’r her yn cynnig cyfle i archwilio ffyrdd newydd o gynorthwyo i sicrhau presenoldeb, gwella profiad cleifion a lleihau anghydraddoldebau drwy ddatrysiadau y gellid eu gweithredu ar raddfa ehangach a allai fod yn fuddiol i wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru.  

Cefndir a Chyd-destun 

Mae apwyntiadau a fethir yn her sylweddol ledled gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

I gleifion, gallant achosi oedi cyn cael disagnosis, triniaethau a gofal rheolaidd. I sefydliadau gofal iechyd, maent yn cyfrannu at aneffeithiolrwydd, capasiti a wastreffir ac amseroedd aros yn cynyddu ar adeg pan mae’n galw am wasanaethau yn parhau i gynyddu.  

Fe wnaeth adolygiad gwreiddiol CTM ddwyn sylw at y ffaith y gall cyfuniad o ffactorau ddylanwadu ar bresenoldeb mewn apwyntiadau. Maent yn cynnwys: 

  • Oedi wrth gyfathrebu neu gyfathrebu effeithiol 
  • Heriau o ran cludiant a theithio 
  • Gorfod teithio’n bell i gael gwasanaethau 
  • Anghyfartaleddau cymdeithasol-economaidd 
  • Allgáu digidol 
  • Cyfrifoldebau gofalu a gwaith 
  • Anghenion yn ymwneud â hygyrchedd 
  • Penderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd 

Gallai mynd i’r afael â’r heriau hyn gynorthwyo i wella mynediad cleifion at wasanaethau, cynorthwyo i sicrhau defnydd mwy effeithiol o adnoddau’r GIG, lleihau anghyfartaleddau a chyfrannu at gyflawni gofal iechyd mwy cynaliadwy.  

Yr Her 

Rydym yn ceisio dulliau arloesol a wnaiff helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a fethir a gwella mynediad at ofal wedi’i gynllunio. 

Gall datrysiadau fynd i’r afael ag un neu ragor o’r agweddau ar yr her, yn cynnwys (ymhlith ffactorau eraill): 

  • Cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch apwyntiadau 
  • Hygyrchedd gwybodaeth 
  • Cynllunio a rheoli apwyntiadau 
  • Dulliau ymddygiadol sy’n annog pobl i ddod i’w hapwyntiadau 
  • Nodi unigolion sy’n fwy tebygol o fethu apwyntiadau 
  • Rhwystrau o ran teithio a hygyrchedd 
  • Offerynnau a gwasanaethau digidol 
  • Modelau cymorth yn y gymuned 
  • Ail-lunio gwasanaethau a llwybrau 
  • Dulliau sy’n cael eu hysgogi gan ddata i wella presenoldeb a mynediad 

Anogir ymgeiswyr i ystyried sut mae’r rhwystrau amrywiol yn rhyngweithio a sut gall datrysiadau gynorthwyo poblogaeth amrywiol y mae eu hanghenion a’u hamgylchiadau yn wahanol. 

Nid ydym yn ceisio datrysiad sydd wedi’i bennu ymlaen llaw, ac rydym yn croesawu ystod eang o ddulliau arloesol. 

Prosiectau Priodol 

Mae gennym ddiddordeb mewn datrysiadau a all gyfrannu at un neu ragor o’r canlynol: 

  • Gwella presenoldeb mewn apwyntiadau a lleihau nifer yr apwyntiadau a fethir. 
  • Gwella mynediad at wasanaethau gofal a gynlluniwyd. 
  • Gwella cyfathrebu ac ymgysylltu ynghylch apwyntiadau 
  • Hygyrchedd gwybodaeth a gwasanaethau. 
  • Cynllunio, amserlennu a rheoli apwyntiadau 
  • Dulliau ymddygiadol sy’n cynorthwyo pobl i fynychu apwyntiadau 
  • Nodi pobl sy’n fwy tebygol o fethu apwyntiadau 
  • Lleihau rhwystrau ymarferol sy’n atal pobl rhag cyrchu gwasanaethau 
  • Rhwystrau yn ymwneud â theithio, cludiant a hygyrchedd sy’n effeithio ar allu unigolyn i fynd i apwyntiadau. 
  • Dulliau seiliedig ar ddata, dulliau digidol neu ddulliau a alluogir gan dechnoleg. 
  • Dulliau yn y gymuned neu ddulliau ail-lunio gwasanaethau. 
  • Gwella tegwch o ran mynediad ar draws poblogaethau ac ardaloedd daearyddol gwahanol. 
  • Y Gymraeg, hygyrchedd a chyflawni gwasanaethau cynhwysol. 

Prosiectau Amhriodol 

Nid ydym yn ceisio prosiectau: 

  • Sy’n canolbwyntio’n llwyr ar gynyddu’r galw am wasanaethau gofal iechyd 
  • Sy’n astudiaethau academaidd neu ymchwil yn anad dim, heb unrhyw ddull ymarferol i’w gweithredu 
  • Sy’n gofyn am ymchwil sylfaenol helaeth cyn gall y gwaith datblygu gychwyn 
  • Na allant amlygu ffordd realistig o’u mabwysiadu o fewn gwasanaethau iechyd a gofal. 
  • Na ydynt yn ystyried fforddiadwyedd, y gallu i’w hehangu na chynaliadwyedd hirdymor. 
  • Yn dibynnu’n llwyr ar gyflawni gwaith wyneb yn wyneb trwy gyfrwng y Saesneg gyda chleifion 
  • Yn ceisio disodli goruchwyliaeth glinigol neu farn gweithwyr proffesiynol pan fo hynny’n dal yn ofynnol. 
  • Sy’n ymwneud yn bennaf â darparu, comisiynu neu gymorthdalu gwasanaethau cludiant (er enghraifft, tacsis, gwasanaethau bysys, darparu gwasanaeth cludiant ar gyfer cleifion neu gynlluniau cludiant tebyg). 

Deilliannau a Ddymunir 

Dylai datrysiadau llwyddiannus amlygu potensial i gyflawni gwelliannau mesuradwy mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol. 

Cleifion a Dinasyddion 

  • Gwella mynediad at wasanaethau gofal a gynlluniwyd 
  • Gwella presenoldeb cleifion mewn apwyntiadau 
  • Gwella profiadau cleifion 
  • Lleihau’r baich o ran teithio a chynllunio a threfnu 
  • Deilliannau iechyd gwell trwy allu cael gofal yn fwy prydlon 
  • Mynediad tecach ble mae cleifion yn byw a beth bynnag fo’u hincwm neu eu hamgylchiadau personol 

Staff 

  • Gwella’r defnydd o glinigau 
  • Llai o faich gweinyddol 
  • Defnydd mwy effeithiol o amser clinigol 
  • Gwasanaethau gweithredol mwy effeithiol 
  • Staff yn profi hwyliau gwell 

Systemau Iechyd a Gofal 

  • Lleihau cyfraddau apwyntiadau a fethir 
  • Gwella cynhyrchedd a llif gwasanaethau 
  • Lleihau amseroedd aros 
  • Defnyddio adnoddau cyhoeddus yn well 
  • Lleihau anghyfartaleddau iechyd 
  • Gwella cynaliadwyedd a deilliannau amgylcheddol 

Gallai mesurau llwyddiant gynnwys cyfraddau presenoldeb, y defnydd o wasanaethau, amseroedd aros, profiadau cleifion, mesurau yn ymwneud â thegwch, effeithlonrwydd gwasanaethau gweithredol a gwerth am arian. 

Mabwysiadau ac Ehangu Prosiectau a’u Fforddiadwyedd a’u Cynaliadwyedd yn y Dyfodol 

Mae Contractau ar gyfer Arloesi Cymru yn ceisio datrysiadau a allai gynnig buddion y tu hwnt i un sefydliad neu un lleoliad cynllun peilot. 

Dylai ymgeiswyr ystyried sut gallai eu datrysiad arfaethedig: 

  • Gael ei addasu i’w ddefnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal gwahanol. 
  • Cynorthwyo poblogaethau sy’n amrywio o ran eu hanghenion, eu nodweddion demograffig a natur wledig eu hardaloedd. 
  • Cael ei drosglwyddo ar draws nifer o Fyrddau Iechyd a rhanarthau ledled Cymru. 
  • Integreiddio â gwasanaethau, prosesau a seilwaith digidol presennol lle bo hynny’n briodol. 
  • Amlygu dull dichonol i alluogi ei fabwysiadu fel dull hirdymor a chynaliadwy. 
  • Parhau i gynnig gwerth y tu hwnt i’r prosiect gwreiddiol a ariennir 
  • Cynnig sicrwydd y byddai costau cyflawni, gweithredu a chynnal y datrysiad yn fforddiadwy, i gynorthwyo i’w fabwysiadu yn yr hirdymor ledled Cymru.  

Mae’r her yn cael ei harwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ond dylai datrysiadau llwyddiannus amlygu’r potensial i gefnogi eu mabwysiadu’n ehangach ledled Cymru os bydd tystiolaeth o fudd a galw. Gall datrysiadau y gellir eu haddasu ar gyfer lleoliadau gofal, poblogaethau cleifion ac amgylchiadau lleol gwahanol gynnig gwerth hirdymor ychwanegol, a dylid eu dylunio gan ystyried y gallu i’w hehangu, hyblygrwydd, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor. 

Cam 1: Darganfod a Dichonoldeb 

Bydd Cam 1 yn cynorthwyo i archwilio a datblygu dulliau arloesol ac ymgymryd â phrofion cynnar yn eu cylch. 

Gallai gweithgareddau gynnwys: 

  • Darganfod ac ymchwil 
  • Ymgysylltu â defnyddwyr a chyd-ddylunio 
  • Asesu dichonoldeb 
  • Datblygu prototeip 
  • Profion cynnar 
  • Dadansoddi data 
  • Dylunio gwasanaethau 
  • Dilysu technegol 

Dylai ymgeiswyr amlygu dealltwriaeth bendant ynghylch sut y byddant yn archwilio’r her, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn cynhyrchu tystiolaeth i gynorthwyo i ddatblygu’r datrysiad ymhellach. 

Cam 2: Gwaith Datblygu Posibl yn y Dyfodol a Gwerthusiadau yn y Byd Go Iawn 

Nid oes sicrwydd y bydd cynigion yn symud ymlaen i Gam 2. 

Yn amodol ar argaeledd cyllid yn y dyfodol, blaenoriaethau strategol a chanlyniadau Cam 1, efallai y gwahoddir prosiectau dethol i gyfranogi mewn cystadleuaeth ddilynol (Cam 2) a fydd yn canolbwyntio ar ragor o waith datblygu, profi yn y byd go iawn a gwerthuso. 

Byddai disgwyl i brosiectau sy’n symud ymlaen i’r cam hwn ymgymryd â phrofion o fewn lleoliadau iechyd a gofal gweithredol.  

Gallai gweithgareddau gynnwys: 

  • Datblygu cynllun peilot 
  • Gwerthuso deilliannau ac effaith 
  • Datblygu a mireinio’r datrysiad ymhellach  
  • Asesu’r gallu i ehangu’r datrysiad a’i gynaliadwyedd 
  • Datblygu llwybrau mabwysiadu yn y dyfodol 

Diben Cam 2 yw cynhyrchu tystiolaeth gadarn ynghylch effeithiolrwydd, derbynioldeb a gwerth datrysiadau, a’r gallu i’w cymhwyso’n ehangach. 

Cydweithredu a Chyfleoedd i Ddysgu Ledled y System 

Er bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arwain yr her hon, mae apwyntiadau a fethir a rhwystrau rhag mynediad yn effeithio ar sefydliadau iechyd a gofal ledled Cymru. Dylai datrysiadau a ddatblygir drwy’r her hon amlygu dealltwriaeth o’r cyd-destun ehangach gwasanaethau iechyd a gofal, ac o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar bresenoldeb ar draws gwahanol boblogaethau a lleoliadau. 

Bydd cydweithredu yn elfen bwysig mewn prosiectau llwyddiannus. Disgwylir i ymgeiswyr ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i lywio gwaith i ddatblygu, profi a gwerthuso eu datrysiad, ac i alluogi ei fabwysiadu yn y dyfodol. 

Gall sefydliadau perthnasol gynnwys: 

  • Sefydliadau’r GIG ledled Cymru 
  • Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 
  • Awdurdodau lleol 
  • Sefydliadau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector 
  • Sefydliadau academaidd 
  • Rhanddeiliaid ym meysydd hygyrchedd a chludiant 
  • Cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd 

Dylai ymgeiswyr ddisgrifio sut y bydd cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cynorthwyo â’u dull arfaethedig ac yn cyfrannu at gynhyrchu tystiolaeth gadarn, mabwysiadu yn y dyfodol ac addaster ehangach ledled Cymru. 

Mae’n debygol y bydd datrysiadau sy’n amlygu potensial i’w haddasu ar draws gwahanol sefydliadau, poblogaethau ac ardaloedd daearyddol yn cynnig mwy o werth hirdymor ac yn cynorthwyo i sicrhau buddion ehangach ledled Cymru. 

Y Gymraeg, Cynhwysiant a Hygyrchedd 

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog a bydd yn rhaid i ystyriaethau ynghylch y Gymraeg fod yn elfen allweddol o waith i lunio’r datrysiad. Rhaid i unrhyw ddatrysiadau llwyddiannus gynnwys gwaith i ddatblygu cynnwys a welir gan y cyhoedd yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut bydd eu datrysiad yn: 

  • Cynorthwyo i gynnig gwasanaethau dwyieithog. 
  • Sicrhau y bydd defnyddwyr sy’n siarad Cymraeg a rhai sy’n siarad Saesneg yn cael yr un profiad o’r holl nodweddion, cynnwys, defnyddiau cyfathrebu a rhyngweithiadau. 
  • Dwyieithog o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiad i’w wella’n ddiweddarach. 
  • Cynorthwyo pobl i ryngweithio â gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith y maent yn ei ffafrio. 
  • Darparu cynnwys, cyfathrebiadau a hysbysiadau a welir gan gleifion yn Gymraeg ac yn Saesneg. 
  • Ategu egwyddorion y Cynnig Rhagweithiol i gael Gwasanaethau Cymraeg 
  • Ystyried gofynion yn ymwneud â’r Gymraeg a hygyrchedd ar yr un pryd trwy gydol y gweithgareddau dylunio, profi a gweithredu. 
  • Annog pobl sy’n siarad Cymraeg i gyfranogi mewn gweithgareddau profi a gwerthuso pan fo hynny’n briodol.  

Dylai nodweddion yn y Gymraeg gael eu gwreiddio yn y prosiect o’r cychwyn cyntaf ac ni ddylid ymdrin â hynny fel gwelliant yn y dyfodol neu fodiwl dewisol.  

Os bydd datrysiadau yn ymgorffori awtomeiddio, deallusrwydd artiffisial, cymorth i wneud penderfyniadau neu nodweddion digidol uwch, dylai ymgeiswyr esbonio sut y caiff darpariaeth yn y Gymraeg ei chefnogi’n a’i chynnal wrth i’r datrysiad ddatblygu. 

Efallai bydd yr adnoddau dilynol yn ddefnyddiol i ymgeiswyr: 

Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried anghenion pobl a allai brofi rhwystrau yn ymwneud â: 

  • Chyfathrebu 
  • Amhariadau ar y synhwyrau 
  • Amariadau gwybyddol 
  • Allgáu digidol 
  • Llythrennedd 
  • Iaith 
  • Teithio a hygyrchedd 
  • Amgylchiadau cymdeithasol-economaidd 

Anogir hefyd unrhyw ddatrysiadau sy’n cynnig galluoedd amlieithog ehangach os bydd hynny’n cynorthwyo i sicrhau hygyrchedd neu gynhwysiant neu ddiwallu anghenion poblogaethau amrywiol, ar yr amod y cefnogir darpariaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg yn llawn. 

Data, Llywodraethu a Moeseg 

Efallai bydd rhaid datrysiadau yn gofyn am fynediad at ddata ynghylch materion gweithredol, presenoldeb neu ddemograffeg. 

Ar yr adeg hon, ni ddisgwylir i ymgeiswyr fod wedi sefydlu trefniadau llywodraethu wedi’u datblygu’n llawn. Fodd bynnag, dylai cynigion amlygu ymwybyddiaeth o: 

  • Ofynion ynghylch llywodraethu gwybodaeth 
  • Gofynion ynghylch diogelu data 
  • Ystyriaethau yn ymwneud â seibrddiogelwch 
  • Defnydd moesegol o ddata 
  • Ymddiriedaeth cleifion a thryloywder 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth gan bartneriaid yr her i ddatblygu trefniadau llywodraethu priodol os bydd hynny’n ofynnol. 

Gwerth Cymdeithasol ac Economaidd a Gwerth i Gymunedau 

Anogir ymgeiswyr i ystyried sut gallai eu datrysiad gynnig buddion ehangach i Gymru. 

Gall hynny gynnwys: 

  • Cynorthwyo â’r gallu i arloesi yng Nghymru 
  • Datblygu sgiliau 
  • Datblygu’r gweithlu 
  • Gwydnwch cymunedau 
  • Cryfhau cadwyni cyflenwi lleol 
  • Cynorthwyo i sicrhau twf cynhwysol yn yr economi 

Dylai’r ystyriaethau hyn gyd-fynd â maint a natur y prosiect. 

Cyllid a Chymorth 

Cyllid Cam 1 

Cyllid ar gael: Hyd at £200,000.  

Nifer y Prosiectau: Mae cyllid ar gael i gefnogi portffolio o brosiectau, yn dibynnu ar nifer/ansawdd y cyflwyniadau a dderbynnir. 

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael. 

Dull Portffolio 
Gellir gwneud penderfyniadau i ariannu gan ddefnyddio dull portffolio, gan gydnabod y bydd heriau cymhleth yn aml yn gofyn am ystod o ddatrysiadau cyflenwol yn hytrach nag un ymyriad. Ystyrir cydbwysedd cyffredinol y prosiectau a gefnogir, y dystiolaeth a gynhyrchir, a’r potensial i’w mabwysiadu a dysgu gwersi ar lefel ehangach ledled Cymru. 

Cymorth Sydd Ar Gael 

Gallai ymgeiswyr llwyddiannus elwa trwy allu cael mynediad at: 

  • Arbenigedd clinigol 
  • Gwybodaeth am wasanaethau gweithredol 
  • Cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd 
  • Cymorth i arloesi 
  • Arbenigedd ym meysydd data a gwerthuso 
  • Rhanddeiliaid perthnasol a phartneriaid sy’n rhan o’r her 

Amserlen Awgrymedig 

Gweithgarwch Dyddiad 
Dyddiad Agor y gystadleuaeth 22 Medi 2026 
Digwyddiad Briffio 2 Hydref 2026 
Dyddiad cau’r gystadleuaeth 20 Hydref 2026 
Asesu a Llunio’r Rhestr Fer yn dechrau ar 21 Hydref 2026 
Cyflwyniadau gan Gyflenwyr Dyddiad i’w gadarnhau 
Dyfarnu’r Contract  Tachwedd 2026  
Dechrau’r Prosiect Tachwedd 2026 
Dyddiad Cwblhau’r Prosiect 31 Mawrth 2027 
Cyflwyno Adroddiadau Terfynol Mawrth 2027 

Digwyddiad Briffio 

I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir, i’w gynnal ar 2 Hydref 2026, dilynwch y ddolen isod: 

Digwyddiad Briffio  

Sut i Wneud Cais 

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon drwy: https://sdi.click/planned-care-cy 

Caiff ymgeiswyr a fydd ar y rhestr fer eu gwahodd i ddod i sesiwn asesu wyneb yn wyneb. 

Disgwylir i ymgeiswyr: 

  • Gyflwyno eu dull arfaethedig 
  • Dangos eu bod yn deall yr her 
  • Trafod dichonoldeb, y gallu i gyflawni’r her a’r effaith 
  • Ymateb i gwestiynau gan banel asesu 

Cynhelir y sesiwn ar ffurf trafodaeth gydweithredol a fydd yn ymdebygu i broses asesu rhaglen “Dragon’s Den”. 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn contract safonol Contractau ar gyfer Arloesi Cymru i gyflawni’r gweithgarwch arfaethedig. Gan mai templed safonol a ddefnyddir ledled y DU yw hwn, nid yw’r telerau na’r amodau yn agored i’w newid. Felly, dylech ymgyfarwyddo â’r contract drafft cyn cyflwyno eich cais. 

Crynodeb 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM yn ceisio datrysiadau arloesol sy’n helpu i leihau nifer yr apwyntiadau a fethir ac i wella mynediad at ofal wedi’i gynllunio. 

Mae’r her yn canolbwyntio ar ddeall a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n peri i bobl fethu apwyntiadau, cynorthwyo i sicrhau mynediad tegach at wasanaethau, gwella profiad cleifion a gwneud defnydd gwell o adnoddau’r GIG.  

Rydym yn croesawu dulliau uchelgeisiol, creadigol a chydweithredol a allai sicrhau buddion ystyrlon i gleifion, staff a systemau iechyd a gofal ledled Cymru. Dylid datblygu datrysiadau gan ystyried y gallu i’w hehangu yn y dyfodol, eu haddasrwydd, eu fforddiadwyedd a’u cynaliadwyedd hirdymor, gan gynorthwyo â mabwysiadu posibl ar draws nifer o sefydliadau a lleoliadau gofal os bydd hynny’n briodol. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 
Application Deadline9th Oct 2026

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy