Application Deadline20th Oct 2026

Moderneiddio Llwybr Sgrinio’r Coluddyn yng Nghymru 

Datrysiadau arloesol i wella asesiadau i gyfranogwyr, cymorth gyda brysbennu a chamau dilynol yn dilyn canlyniad FIT positif 

Cyflwyniad 

Mae canser y coluddyn yn un o’r mathau mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, a chaiff dros 2,200 o achosion newydd eu canfod bob blwyddyn1, ac mae rhoi diagnosis yn gynnar yn parhau i fod yn un o’r ffactorau pwysicaf o ran gwella canlyniadau i gleifion. Mae’n fwy cyffredin wrth i bobl fynd yn hŷn, a chaiff y rhan fwyaf o achosion eu canfod yn achos y rhai sydd dros 50 oed. 

Mae  Sgrinio Coluddion Cymru2 yn cyflawni rôl hollbwysig o ran canfod pobl sy’n 50-74 oed a allai fod a risg gynyddol o ganser y coluddyn, trwy ddefnyddio pecyn sampl carthion yn y cartref yn rheolaidd, sy’n cael ei alw’n Brawf Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT)3. Bob blwyddyn, mae mwy na 500,000 o bobl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn, ac mae 12,000 o gyfranogwyr yn derbyn canlyniad FIT positif ac mae angen asesu4 ac ymchwilio pellach arnynt. 

Yn dilyn canlyniad FIT positif, caiff y sawl sy’n cymryd rhan mewn sgrinio eu cynghori i gysylltu â thim cenedlaethol gweinyddu sgrinio’r coluddyn er mwyn trefnu apwyntiad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr ar gyfer asesiad cyn colonsgopi dan arweiniad nyrsys. Caiff yr asesiad hwn ei gynnal yn bennaf dros y ffôn ac mae’n defnyddio ffurflen asesu safonedig a nod y cwestiynau yw penderfynu a yw unigolyn yn addas ar gyfer colonosgopi, nodi risgiau clinigol a sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt cyn ymchwilio pellach. Mae’r asesiad hwn yn para rhwng 30 a 60 munud, gan ddibynnu ar lefel y cymhlethdod. Mae apwyntiadau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 4pm, ac ar hyn o bryd, hwn yw’r unig opsiwn sydd ar gael i’r sawl sy’n destun sgrinio. 

Cafodd y broses bresennol ei sefydlu pan lansiwyd rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn 2008 ac mae wedi parhau i fod heb ei newid i raddau mawr ers hynny. Er bod y llwybr yn parhau i ddarparu dull asesu diogel ac effeithiol, mae’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo wedi newid yn sylweddol. Mae’r sawl sy’n cymryd rhan mewn Sgrinio’r Coluddyn wedi cynyddu, mae cymhwyster wedi ehangu, ac mae pwysau o ran y gweithlu wedi dwysáu ac mae disgwyliadau’r cyhoedd o ran mynediad digidol, cyfathrebu a chyfleuster wedi esblygu. 

Felly mae Sgrinio Coluddion Cymru yn chwilio am ymagweddau arloesol sy’n gallu cynorthwyo o ran moderneiddio gwasanaethau, gwella profiad cyfranogwyr, gwella prydlondeb asesiadau cyn colonosgopi ac atgyfnerthu gallu GIG Cymru i ateb y galw yn y dyfodol. 

Yr Her 

Mae’r prosesau presennol o ran asesu cyn colonosgopi’n parhau i ddibynnu i raddau helaeth ar weithgarwch wyneb yn wyneb a thros y ffon yn ystod oriau swyddfa arferol (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9-4pm). Gall hyn gyfyngu ar fynediad ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan mewn sgrinio (yn enwedig y rhai o oedran gweithio), creu pwysau ar dimau nyrsio arbenigol, cyfrannu at amrywiadau o ran amseroedd aros a phrofiad cyfranogwyr, a chyfyngu ar gyfleoedd i wneud defnydd gwell o adnoddau gwybodaeth i gyfranogwyr (h.y. nid yw’r capasiti ar gael ar hyn o bryd i gyfeirio cyfranogwyr at adnoddau digidol a chynnwys fideo). 

Rydym yn chwilio am ddatrysiadau arloesol sy’n gallu gwella mynediad at asesiadau prydlon, cynnig mwy o hyblygrwydd i gyfranogwyr o ran cynnal asesiad, sy’n galluogi cyfranogwyr i gael mwy o reolaeth dros y ffordd y byddant yn ymgysylltu a’r gwasanaeth, gan gynnwys y posibilrwydd iddynt drefnu eu slotiau apwyntiadau eu hunain yn dilyn asesiad. Yn ogystal, dylai’r arloesiad gynnwys y gallu i ganiatáu i’r rhaglen sgrinio frysbennu cyfranogwyr ar gyfer archwiliadau priodol a haenu unigolion ar gyfer ymyriadau prydlon yn seiliedig ar angen clinigol yn dilyn derbyn canlyniad FIT positif. 

Mae’r her yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac nid yw’n rhagnodi technoleg, math o gynnyrch neu fodel cyflawni penodol. 

Anogir ymgeiswyr i gynnig yr ymagwedd a fydd, yn eu tyb nhw, yn mynd i’r afael a’r her yn y ffordd orau bosibl a dangos sut y gellid addasu, datblygu neu wella eu datrysiad er mwyn diwallu anghenion Sgrinio Coluddion Cymru. 

Nid ydym yn awyddus i ddewis un datrysiad penodol ymlaen llaw. Pwrpas yr her hon yw rhoi cymorth o ran datblygu a dangos datrysiadau sy’n gallu mynd i’r afael a’r angen gwasanaeth isorweddol fel y’i disgrifir uchod gan greu’r sylfeini ar gyfer gwelliant yn y dyfodol. 

Canlyniadau Dymunol 

Mae gennym ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n gallu cyflawni gwelliannau mesuradwy yn un neu fwy o’r meysydd canlynol. 

Mynediad Prydlon at Ofal 

  • Lleihau amser rhwng derbyn canlyniad FIT positif a chwblhau asesiad cyn colonosgopi. 
  • Gwella mynediad at wasanaeth gyda’r nos a thros y penwythnos. 
  • Gwella mynediad prydlon a symud ymlaen trwy’r llwybr. 
  • Lleihau oedi y gellid ei osgoi o ran colonosgopi neu weithredoedd diagnostig eraill. 
  • Gwelliant o ran gwelededd llwybrau. 

Profiad Cyfranogwyr 

  • Gwell cyfathrebu ac ymgysylltu a’r sawl sy’n cymryd rhan mewn sgrinio ar gam cynnar y llwybr. 
  • Lleihau pryderon ac ansicrwydd yn ystod cyfnodau o arosiadau hirfaith am asesiad cyn colonosgopi dan arweiniad nyrs 
  • Mwy o gyfleustod a hygyrchedd ar gyfer cyfranogwyr lle mae angen iddynt gael mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau gwaith 
  • Mwy o wasanaethau sy’n canolbwyntio ar bobl trwy gynnig mwy o hyblygrwydd a’r gallu i unigolion drefnu apwyntiadau dilynol yn uniongyrchol fel y tybir i fod yn briodol ar lefel glinigol 

Capasiti’r Gweithlu 

  • Defnyddio capasiti nyrsio arbenigol yn well. 
  • Llai o faich gweinyddol i staff clinigol. 
  • Llai o gyswllt a’r ddesg gymorth ganolog. 
  • Gwell cynhyrchiant o ran y gweithlu ar draws y tîm sgrinio amlddisgyblaethol. 
  • Gwella gwytnwch y gwasanaeth trwy fabwysiadu datrysiadau awtomatig a/neu ddigidol 

Tegwch a Hygyrchedd 

  • Llai o amrywiadau o ran mynediad ar draws Cymru. 
  • Profiadau mwy cyson i gyfranogwyr. 
  • Gwell hygyrchedd ar gyfer grwpiau gwahanol o’r boblogaeth. 
  • Darpariaeth gadarn o ran y Gymraeg. 

Gwybodaeth a Phenderfynu 

  • Dulliau gwell o gofnodi a defnyddio gwybodaeth cyfranogwyr, gan leihau dibyniaeth ar daflenni a llythyrau sydd wedi’u hargraffu ac sy’n cael eu postio 
  • Gwell deallusrwydd gweithredol. 
  • Dulliau symlach o reoli llwybrau. 
  • Deallusrwydd busnes i gynnwys tystiolaeth well er mwyn ategu penderfyniadau clinigol, cynllunio gwasanaethau, gwella gwasanaethau a gwerthuso. 

Cynaliadwyedd 

  • Ymagweddau fforddiadwy a hyblyg. 
  • Gwell cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. 
  • Llwybr realistig at fabwysiadu yn y tymor hir. 
  • Creu platfform cynaliadwy ar gyfer datblygu galluoedd yn y dyfodol. 

Dylai ymgeiswyr nodi’n glir ar ba ganlyniadau y mae disgwyl i’w datrysiad ddylanwadu ac esbonio sut y caiff effaith ei mesur. 

Cam 2: Datblygu ac Arddangos mewn Sefyllfa Wirioneddol 

Mae’r her hon yn cael ei chyflawni fel cystadleuaeth Cam 2 Contractau ar gyfer Arloesi. 

Rydym yn chwilio am sefydliadau sydd â thechnolegau, cynnyrch, platfformau neu ddatrysiadau sy’n bodoli eisoes sydd angen eu haddasu, eu gwella neu eu datblygu er mwyn diwallu anghenion Sgrinio Coluddion Cymru. 

Dylai prosiectau ategu’r broses o ddatblygu, mireinio ac arddangos ymagweddau arloesol mewn sefyllfaoedd gwirioneddol sy’n gallu gwella asesiadau i gyfranogwyr, brysbennu a rheoli llwybrau yn dilyn derbyn canlyniad FIT positif. 

Y disgwyliad yw i ddatrysiadau gael eu rhoi ar waith a’u gwerthuso mewn sefyllfa wirioneddol lle bo’n briodol, gan alluogi dysgu gwersi o roi prosiectau ar waith yn ymarferol er mwyn bod yn sail i fireinio pellach a datblygu yn y dyfodol trwy gydol y prosiect. 

Disgwylir i brosiectau llwyddiannus greu tystiolaeth ymarferol yn ymwneud a’r canlynol: 

  • Profiad cyfranogwyr. 
  • Effeithiolrwydd clinigol. 
  • Buddion i’r gweithlu. 
  • Effaith weithredol. 
  • Fforddiadwyedd a chynaliadwyedd. 
  • Parodrwydd i fabwysiadu’r prosiect. 
  • Datblygu yn y dyfodol a hyblygrwydd. 

Ni ddisgwylir i ddatrysiadau gyflawni llwybr o’r dechrau i’r diwedd sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr yn ystod y prosiect hwn. 

Dylai ymgeiswyr ddisgrifio’r canlynol: 

  • Yr hyn maent yn cynnig ei gyflawni. 
  • Sut caiff ei brofi a’i werthuso. 
  • Sut y gallai’r datrysiad esblygu yn y dyfodol. 

Dull Datblygu 

Mae gan Sgrinio Coluddion Cymru ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n gallu cyflawni galluoedd ymarferol cychwynnol ac sy’n gallu creu gwerth yn gynnar yn y prosiect, gan greu cyfleoedd am welliannau pellach dros amser. 

Efallai y bydd prosiectau’n dechrau trwy ganolbwyntio ar elfennau gweddol gynnil o’r llwybr, megis cofnodi gwybodaeth, asesiadau i gyfranogwyr neu gymorth brysbennu. Yna, dylai datrysiadau gael eu mireinio a’u gwella trwy eu rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn, casglu adborth gan ddefnyddwyr a dysgu am wasanaethau trwy gydol y prosiect. 

Gan nad ydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddarparu ateb llwybr gwasanaeth cyflawn o’r dechrau i’r diwedd o fewn cyfnod byr y prosiect hwn, rydym yn chwilio am atebion ymarferol sy’n gallu dangos gwerth mewn lleoliad byd go iawn, gan hefyd greu sylfeini ar gyfer datblygu galluoedd yn y dyfodol. Felly, rhaid i ymgeiswyr ystyried safonau llywodraethu a hygyrchedd perthnasol GIG Cymru a fydd yn ofynnol i gefnogi eu dull o gyflawni’r prosiect a’i fabwysiadu yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â’r canlynol: 

  • Llywodraethu gwybodaeth a diogelu data 
  • Diogelwch clinigol 
  • Gofynion seiberddiogelwch a rhyngweithrededd digidol; a 
  • Unrhyw ddosbarthiadau dyfeisiau meddygol sy’n ofynnol. 

Dylai ymgeiswyr nodi, yn adrannau perthnasol y ffurflen gais, unrhyw gymeradwyaethau neu ardystiadau y gallai fod eu hangen i gefnogi canlyniadau eu prosiect, gan hefyd ystyried gofynion yn y dyfodol ar gyfer gweithredu, defnyddio a mabwysiadu o fewn GIG Cymru. 

Dylai ymgeiswyr amlinellu eu lefel bresennol o barodrwydd a’u dull o sicrhau a chynnal cydymffurfiaeth yn ystod cyflawni’r prosiect. Dylent hefyd gadarnhau pa ardystiadau sydd eisoes ar waith a darparu tystiolaeth ategol. 

Galluoedd a Hyblygrwydd yn y Dyfodol 

Er bod ffocws cychwynnol yr her ar asesu cyn colonosgopi, cofnodi gwybodaeth a brysbennu, dylai ymgeiswyr ddisgrifio sut y gallai eu datrysiad esblygu dros amser ac ategu gwelliannau yn y dyfodol a gwerthuso integredig gan ddefnyddwyr lle bo hynny’n briodol. 

Gallai hyn gynnwys meysydd megis: 

  • Cyfathrebu a chyfranogwyr. 
  • Rheoli apwyntiadau. 
  • Optimeiddio llif gwaith. 
  • Deallusrwydd gweithredol. 
  • Deallusrwydd artiffisial. 
  • Sgrinio ehangach a chymorth ar gyfer y llwybr diagnostig. 
  • Derbyn, profi a gwerthuso gan ddefnyddwyr 

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn datrysiadau sydd â’r potensial o esblygu y tu hwnt i gwmpas uniongyrchol yr her ac o greu galluoedd y gellir eu dyblygu ar gyfer GIG Cymru.  

Gallai hyn gynnwys gweithredu yn y dyfodol ar draws rhaglenni sgrinio, llwybrau diagnostig neu wasanaethau ar gyfer cyfranogwyr lle bo heriau tebyg yn bodoli. 

Fforddiadwyedd, Cynaliadwyedd a Mabwysiadu 

Mae fforddiadwy a chynaliadwyedd yn ofynion canolog i’r her hon. 

Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol: 

  • Fforddiadwyedd y tu hwnt i gyfnod y prosiect a ariennir. 
  • Llwybr realistig at fabwysiadu yn GIG Cymru. 
  • Hyblygrwydd ar draws Cymru. 
  • Cyfleoedd i wella cynhyrchiant ac i leihau pwysau ar wasanaethau. 
  • Gwerth cyffredinol y cynnig i GIG Cymru. 

Dylai datrysiadau ddangos sut y gallent droi’n ddarpariaeth weithredol gynaliadwy os bydd y prosiect yn llwyddiannus. 

Buddion Ehangach i Gymru 

Yn ogystal â gwella canlyniadau i gyfranogwyr a gwasanaethau, anogir ymgeiswyr i ystyried y buddion ehangach y gallai eu cynnig eu cyflawni i Gymru. 

Gallai’r rhain gynnwys: 

  • Rhoi cymorth i bobl aros yn iach ac yn weithgar ar lefel economaidd. 
  • Rhoi cymorth o ran lles a chynhyrchiant yn y gweithlu. 
  • Lleihau anghydraddoldebau. 
  • Datblygu sgiliau, galluoedd ac arbenigedd o ran arloesi yng Nghymru. 
  • Rhoi cymorth o ran arloesi dwyieithog. 
  • Creu buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol neu gymunedol ehangach. 

Efallai y bydd ymgeiswyr yn disgrifio unrhyw fuddion ehangach sy’n gysylltiedig â’u cynnig lle bo hynny’n berthnasol. 

Gofynion o ran y Gymraeg 

Mae Cymru yn genedl ddwyieithog ac mae’n rhaid i ystyriaethau o ran y Gymraeg fod yn rhan annatod o ddylunio datrysiadau. Mae’n rhaid i unrhyw ddatrysiadau llwyddiannus gynnwys deunyddiau Cymraeg a Saesneg ar gyfer y cyhoedd fel rhan o waith datblygu Cam 2. 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut bydd eu datrysiad yn gwneud y canlynol: 

  • Yn ategu darpariaeth gwasanaeth dwyieithog. 
  • Yn sicrhau bod defnyddwyr Cymraeg a Saesneg yn derbyn yr un profiad ar draws yr holl swyddogaethau, cynnwys, cyfathrebiadau a rhyngweithiadau. 
  • Yn sicrhau eu bod yn ddwyieithog trwy ddyluniad, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiad fel ateb ôl-weithredol. 
  • Yn cynorthwyo pobl i ryngweithio â gwasanaethau yn eu dewis iaith. 
  • Yn darparu cynnwys, cyfathrebiadau a hysbysiadau ar gyfer cleifion yn Gymraeg ac yn Saesneg. 
  • Yn ategu egwyddorion Cynnig Rhagweithiol y Gymraeg. 
  • Yn ystyried gofynion o ran y Gymraeg a hygyrchedd gyda’i gilydd trwy gydol gweithgareddau dylunio, profi a gweithredu. 
  • Yn cynnwys defnyddwyr Cymraeg mewn gweithgareddau profi a gwerthuso lle bo hynny’n briodol. 

Dylai swyddogaethau Cymraeg gael eu hymgorffori o adeg dechrau’r prosiect ac ni ellir eu trin fel ateb ôl-weithredol na modiwl dewisol. 

Lle bo datrysiadau’n ymgorffori dulliau awtomatig, deallusrwydd artiffisial, cymorth gyda phenderfyniadau neu swyddogaethau digidol uwch, dylai ymgeiswyr esbonio sut bydd darpariaeth y Gymraeg yn cael ei chynorthwyo a’i chynnal yn deg wrth i’r datrysiad esblygu. 

Efallai y bydd ymgeiswyr yn gweld yr adnoddau a ganlyn yn ddefnyddiol: 

Caiff datrysiadau sydd â galluoedd amlieithog ehangach eu hannog hefyd lle bydd hyn yn ategu hygyrchedd, cynhwysiant neu anghenion poblogaethau amrywiol, ar yr amod bod modd cynnal darpariaeth Cymraeg a Saesneg yn llawn. 

O fewn Cwmpas 

Mae gennym ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n gallu cyfrannu at un neu fwy o’r canlynol: 

  • Asesiad cadarn cyn colonosgopi i gyfranogwyr yn dilyn derbyn canlyniad FIT prawf sgrinio positif. 
  • Cymorth brysbennu diogel ac effeithiol a blaenoriaethu cyfranogwyr. 
  • Cofnodi data am gyfranogwyr a gwasanaethau a rheoli gwybodaeth yn ddiogel. 
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu â chyfranogwyr yn effeithiol ac yn gynhwysfawr. 
  • Cyfeirio effeithiol at adnoddau gwybodaeth ddigidol 
  • Rheoli apwyntiadau, cymorth o ran trefnu clinigau a chydlynu llwybrau. 
  • Awtomeiddio llif gwaith er mwyn caniatáu cyflawni o ran llwybrau sgrinio cymeradwy. 
  • Creu ac argaeledd deallusrwydd gweithredol a dadansoddeg. 
  • Deallusrwydd artiffisial neu ymagwedd dysgu peirianyddol er mwyn cynnig gofal sy’n ddiogel ac yn effeithiol ar lefel glinigol a rhoi cymorth o ran penderfyniadau. 
  • Darpariaeth gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog. 
  • Gwell hygyrchedd, tegwch a chysondeb ar draws Cymru. 

Tu Hwnt i’r Cwmpas 

Nid ydym yn chwilio am brosiectau sy’n gwneud y canlynol: 

  • Sy’n canolbwyntio ar wella cyfranogiad mewn rhaglenni sgrinio’r coluddyn yn unig. 
  • Sy’n academaidd yn bennaf neu sy’n astudiaethau ymchwil lle nad oes unrhyw lwybr hygyrch i’w rhoi ar waith. 
  • Sy’n gofyn am ymchwil sylfaenol helaeth cyn bo modd i waith datblygu ddechrau. 
  • Nad ydynt yn gallu dangos sylfaen dechnoleg sy’n bodoli eisoes. 
  • Na allant ddangos llwybr realistig at fabwysiadu yn GIG Cymru. 
  • Sy’n dibynnu ar ddarpariaeth uniaith Saesneg ar gyfer cyfranogwyr yn unig. 
  • Sydd â’r potensial o roi’r rhai sy’n cymryd rhan o dan anfantais 
  • Sy’n ceisio disodli arolygu clinigol neu farnu proffesiynol. 
  • Sy’n dibynnu’n gyfan gwbl ar integreiddio i systemau cenedlaethol. 

Dyrannu Cyllid a Manylion y Prosiect 

Math o Gystadleuaeth: Cam 2 – Datblygu ac Arddangos mewn Sefyllfa Wirioneddol 

Cyfanswm y Cyllid sydd ar Gael: £ 300,000 

Nifer y Prosiectau a Ragwelir:  Mae cyllid presennol o £300,000, heb gynnwys TAW, ar gael i ariannu 4-5 prosiect, a gall hyn fod yn destun newid. 

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael. 

Ymagwedd Bortffolio 
Mae’r her hon yn agored i geisiadau sy’n darparu prosiect datblygu a dangos mewn amgylchedd go iawn Cam 2. Mae cyllid presennol o hyd at £300,000 ar gael i gefnogi hyd at 4-5 prosiect, a all fod yn destun newid yn dibynnu ar nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbynnir. 

Rhaid i bob cost gael ei chyfiawnhau’n glir a rhaid dangos gwerth am arian, gyda pharodrwydd i wneud cyfraniadau priodol gan y darparwr i helpu i gyflawni’r prosiect. Rydym yn cadw’r hawl i ystyried cyllideb uwch ar gyfer ceisiadau eithriadol os yw graddfa’r ddarpariaeth ledled Cymru yn cyfiawnhau hynny. 

Sylwer y byddai unrhyw fabwysiadu a gweithredu datrysiad sy’n deillio o’r gystadleuaeth hon yn destun ymarfer caffael ar wahân, ac o bosibl yn gystadleuol. Nid yw’r gystadleuaeth hon yn cynnwys prynu unrhyw ddatrysiad, er y gallwn ddewis ymchwilio ac archwilio llwybrau caffael arloesol fel rhan o’r her hon. 

Hyd y Prosiect 

Disgwylir i brosiectau ddechrau ym Tachwedd 2026  ac i ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2027. 

Gallai prosiectau gynnwys cam cychwynnol sy’n canolbwyntio ar addasu neu ffurfweddu gallu cychwynnol i’w roi ar waith yn y llwybr sgrinio’r coluddyn, ac yna cyfnod o brofi mewn sefyllfa go iawn o brofi, dysgu, gwella a mireinio. 

Gofynion Gwneud Cais 

Dylai ceisiadau ddangos y canlynol yn glir: 

  • Dealltwriaeth am yr her. 
  • Aeddfedrwydd y datrysiad arfaethedig. 
  • Buddion a chanlyniadau disgwyliedig. 
  • Sut caiff yr effaith ei mesur. 
  • Ymagwedd o ran y Gymraeg. 
  • Fforddiadwyedd a chynaliadwyedd. 
  • Rhaglen mapio datblygu yn y dyfodol. 
  • Tîm y prosiect, cerrig milltir a chyllideb. 
  • Unrhyw ystyriaethau allweddol o ran gweithredu, diogelwch, llywodraethu, rheoleiddiol neu dechnegol sy’n berthnasol i’r datrysiad arfaethedig. 

Llunio Rhestr Fer ac Ymgysylltu â Chyflenwyr 

Caiff ceisiadau eu hasesu gan ddefnyddio’r meini prawf gwerthuso cyhoeddedig. 

Yn dilyn asesiad, efallai y caiff ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyflwyniad wyneb yn wyneb a sesiwn drafod gyda chynrychiolwyr o Sgrinio Coluddion Cymru, GIG Cymru a rhanddeiliaid perthnasol. 

Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ymgeiswyr gyflwyno eu datrysiad arfaethedig, trafod y buddion disgwyliedig a’r posibilrwydd am fabwysiadu, ac ymateb i gwestiynau gan y panel. 

Efallai y bydd y sesiwn yn dilyn fformat sy’n debyg i Dragon’s Den neu drafodaeth banel. 

Disgwylir i’r cyflwyniad a’r sesiwn drafod gael eu cynnal wyneb yn wyneb, ar ddyddiad sydd i’w gadarnhau, naill yng Nghaerdydd neu yn Wrecsam. 

Dyddiadau Allweddol 

Gweithgarwch Dyddiad 
Mae’r Gystadleuaeth yn agor 22 Medi 2026  
Digwyddiad Briffio 2 Hydref 2026 
Mae’r Gystadleuaeth yn cau 20 Hydref 2026 
Asesu a Llunio’r Rhestr Fer Wythnos yn cychwyn 21 Hydref 2026 
Cyflwyniadau gan Gyflenwyr Wyneb yn Wyneb Dyddiad i’w gadarnhau 
Dyfarnu Contractau Tachwedd 2026.  
Mae Prosiectau’n Dechrau Tachwedd 2026.  
Caiff Prosiectau eu Cwblhau 31 Mawrth 2027 
Cyflwyno Adroddiadau Terfynol Mawrth 2027 

(Gallai’r dyddiadau hyn newid) 

Y Broses Ymgeisio 

Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno trwy: https://sdi.click/bowel-screening-cy 

Ar gyfer ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth hon, cysylltwch â: Contractsforinnovationcymru@Wales.nhs.uk 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn contract safonol Contractau ar gyfer Arloesi Cymru i gyflawni’r gweithgarwch arfaethedig. Gan mai templed safonol a ddefnyddir ledled y DU yw hwn, nid yw’r telerau na’r amodau yn agored i’w newid. Felly, dylech ymgyfarwyddo â’r contract drafft cyn cyflwyno eich cais. 

Digwyddiad Briffio 

I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir, a gynhelir ar 2 Hydref 2026, dilynwch y ddolen isod: https://events.teams.microsoft.com/event/29b941f5-1b92-4919-a645-2754d743461a@bb5628b8-e328-4082-a856-433c9edc8fae  

Gweledigaeth Hirdymor 

Nid disodli proses asesu dros y ffôn â dewis amgen digidol yn unig yw uchelgais yr her hon. 

Y cyfle yn y tymor hwy yw creu gallu cynaliadwy, hyblyg ac atgynhyrchadwy sy’n gwella asesu a brysbennu ar gyfer cyfranogwyr heddiw, gan ddarparu sylfaen ar gyfer arloesi yn y dyfodol ar draws gwasanaethau sgrinio yng Nghymru. 

Bydd y ceisiadau cryfaf yn rhai sy’n gallu dangos gwerth ymarferol yn y tymor byr gan hefyd ddangos sut y gallai’r datrysiad dyfu, addasu a chyfrannu at lwybr sgrinio sy’n fwy cynaliadwy, teg a deallus i Gymru. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 
Application Deadline9th Oct 2026

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy