Cyflwyniad
Mae strôc yn un o brif achosion anabledd yng Nghymru ac mae’n effeithio ar ryw 7,000 o bobl bob blwyddyn. Er bod cyfraddau goroesi’n parhau i wella, mae llawer o bobl yn profi lleihad sylweddol o ran y gefnogaeth sydd ar gael unwaith y byddant yn gadael yr ysbyty ar adeg pan fydd adsefydlu’n parhau i fod yn hollbwysig i adferiad ac annibyniaeth hirdymor. Mae rhyw 45% o’r sawl sydd wedi goroesi strôc yn sôn am deimlo bod eraill wedi cefnu arnynt yn dilyn cael eu rhyddhau o’r ysbyty gan na fyddant yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gael adferiad da.
Mae’r effaith yn ymestyn y tu hwnt i’r unigolyn. Gall amrywiadau o ran mynediad at adsefydlu, cymorth dilynol a gwasanaethau cymunedol arwain at ganlyniadau gwaelach, baich cynyddol i ofalwyr, galw y gellid ei osgoi am wasanaethau iechyd a gofal a chostau sylweddol i’r gymdeithas a’r economi. Ar hyn o bryd, mae strôc yn costio rhyw £220 miliwn i GIG Cymru bob blwyddyn a rhyw £1.63 biliwn i economi ehangach Cymru bob blwyddyn. Heb ymyrraeth, disgwylir i’r costau hyn gynyddu’n sylweddol.
Mae’r her hon wedi cael ei datblygu’n dilyn ymchwilio eang ar draws Cymru yn cynnwys clinigwyr, byrddau iechyd, arweinwyr cenedlaethol, y sawl sydd wedi goroesi strôc, gofalwyr a’r Gymdeithas Strôc. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i ddiffinio’r her, nodi anghenion heb eu diwallu, deall amrywiadau presennol o fewn y gwasanaeth ac i ystyried tirwedd bresennol y farchnad. Mae’r casgliad yn glir: mae ar Gymru angen ymagweddau arloesol a hyblyg sy’n gallu atgyfnerthu adferiad, gwella profiad, lleihau teimladau bod eraill yn cefnu arnynt a chynorthwyo gyda chanlyniadau tecach y tu hwnt i ryddhau o’r ysbyty.
Mae’r her yn cyd-fynd â Datganiad Ansawdd Strôc Llywodraethu Cymru, sy’n rhoi pwyslais newydd ar adsefydliad, adferiad, gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau nad yw’r sawl sydd wedi goroesi strôc yn teimlo bod eraill wedi cefnu arnynt yn ystod eu taith adferiad.
Yr Her
Rydym yn chwilio am ddatrysiadau arloesol sy’n gallu gwella adsefydliad, adferiad a chymorth hirdymor ar gyfer y sawl sydd wedi goroesi strôc.
Mae mynediad at adsefydliad a chymorth dilynol yn amrywio ar draws Cymru. O ganlyniad, gall canlyniadau ddibynnu’n rhy drwm ar ble mae unigolyn yn byw yn hytrach nac ar angen clinigol. Mae’r her hon yn chwilio am ymagweddau arloesol sy’n gallu gwella tegwch mynediad ac sy’n helpu i sicrhau bod pobl yn gallu derbyn adsefydliad a chymorth gydag adferiad o ansawdd uchel waeth beth yw’r ddaearyddiaeth dan sylw, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig, anghysbell, sy’n cael eu tanwasanaethu a nas clywir yn aml ledled Cymru.
Mae’r her yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac nid yw’n rhagnodi technoleg, math o gynnyrch neu fodel cyflawni penodol.
Anogir ymgeiswyr i gynnig yr ymagwedd a fydd, yn eu tyb nhw, yn mynd i’r afael a’r her yn y ffordd orau bosibl a dangos sut y gellid addasu, datblygu neu wella eu datrysiad er mwyn diwallu anghenion GIG Cymru a’r sawl sydd wedi goroesi strôc.
Nid ydym yn awyddus i ddewis un datrysiad penodol ymlaen llaw. Pwrpas yr her hon yw rhoi cymorth o ran datblygu, dangos a gwerthuso ymagweddau arloesol sy’n gallu gwella adferiad, lleihau teimladau unigolion am eraill yn cefnu arnynt a chreu sylfeini ar gyfer gwelliant cynaliadwy ar draws Cymru.
Dylid ystyried yn benodol sut y gall datrysiadau wella mynediad at adsefydliad a chymorth gydag adferiad i bobl a allai wynebu rhwystrau sy’n gysylltiedig â daearyddiaeth, cludiant, argaeledd gwasanaethau, allgáu digidol, capasiti’r gweithlu neu fod yn rhan o grŵp nas clywir yn aml.
Nid yw’r her yn ymwneud â chynnig mwy o therapi, yn unig. Mae gennym ddiddordeb mewn ymagweddau sy’n caniatáu cymorth adsefydlu a hunanreoli personol, parhaus a chymhellol mewn cartrefi, ar draws lleoliadau cymunedol a lleoliadau i gleifion allanol gan gynnal profiadau a chanlyniadau gwell i’r sawl sydd wedi goroesi strôc.
Canlyniadau Dymunol
Mae gennym ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n gallu cyflawni gwelliannau mesuradwy yn un neu fwy o’r meysydd canlynol.
Adferiad ac Annibyniaeth
- Gwell canlyniadau o ran adferiad ac adsefydliad swyddogaethol.
- Annibyniaeth a gallu cynyddol i gymryd rhan mewn bywyd o ddydd i ddydd.
- Gwell hyder a dulliau hunanreoli.
- Iechyd a lles gwell yn y tymor hir.
Profiad Cleifion a Gofalwyr
- Lleihau teimladau pobl bod eraill yn cefnu arnynt ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
- Gwell ansawdd bywyd a lles emosiynol.
- Gwell cymorth i deuluoedd a gofalwyr.
- Mwy o wasanaethau adsefydlu ac adfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Profiad gwell i gleifion.
Darparu Gwasanaethau a Thegwch
- Lleihau amrywiadau heb eu gwarantu o ran mynediad at gymorth adsefydlu.
- Profiadau mwy cyson ar draws Cymru.
- Gwell mynediad at adsefydliad a chymorth gydag adferiad i bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac anghysbell.
- Llai o amrywiadau daearyddol o ran mynediad at wasanaethau.
- Mwy o ganlyniadau teg waeth beth fo’r lleoliad.
- Gwell dilyniant o ran gofal a sylw dilynol.
- Gwell cydlyniant ar draws gwasanaethau a sefydliadau.
Canlyniadau’r System
- Llai o alw y gellid ei osgoi ar wasanaethau iechyd a gofal.
- Gwell defnydd o gapasiti’r gweithlu.
- Gwell deallusrwydd gweithredol a chynllunio gwasanaethau.
- Tystiolaeth gryfach i ategu mabwysiadu ac ehangu’r prosiect yn y dyfodol.
- Gwell dealltwriaeth a ffyrdd o fesur canlyniadau.
Cynaliadwyedd
- Ymagweddau fforddiadwy a hyblyg.
- Cynaliadwyedd hirdymor y tu hwnt i gyfnod y prosiect a ariennir.
- Llwybr realistig at fabwysiadu’r prosiect ledled Cymru.
- Creu galluoedd sy’n ategu datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.
Dylai ymgeiswyr nodi’n glir ar ba ganlyniadau y mae disgwyl i’w datrysiad ddylanwadu ac esbonio sut y caiff effaith ei mesur.
Cam 2: Datblygu ac Arddangos mewn Sefyllfa Wirioneddol
Mae’r her hon yn cael ei chyflawni fel cystadleuaeth Cam 2 Contractau ar gyfer Arloesi.
O gymharu â chystadleuaeth Cam 1, gan ganolbwyntio ar ddichonoldeb, rydym yn chwilio am sefydliadau sydd â thechnolegau, cynhyrchion, platfformau neu ymagweddau adsefydlu sy’n bodoli eisoes sy’n gofyn am fabwysiadu, gwella, ffurfweddu neu ddatblygu pellach er mwyn mynd i’r afael ag anghenion penodol y sawl sydd wedi goroesi strôc, gofalwyr a gwasanaethau adsefydlu ledled Cymru.
Mae’r her hon yn dilyn ymchwilio ac ymgysylltu sylweddol er mwyn deall y broblem, adolygu’r dystiolaeth, diffinio gofynion ac archwilio datrysiadau posibl ar gyfer y farchnad. Felly, rydym yn chwilio am ddatrysiadau sydd â sylfaen sefydledig. Mae cysyniadau sydd ar gam cynnar sy’n gofyn am ymchwil sylfaenol neu waith i ddatblygu prawf cysyniad yn annhebygol o gael eu cefnogi
Dylai prosiectau gynnal y broses o ddatblygu, mabwysiadu a dangos ymagweddau arloesol mewn sefyllfaoedd gwirioneddol sy’n gallu gwella adsefydliad, adferiad a bywyd ar ôl strôc.
Disgwylir i brosiectau llwyddiannus greu tystiolaeth ymarferol yn ymwneud a’r canlynol:
- Canlyniadau i gleifion a gofalwyr.
- Canlyniadau adsefydlu.
- Profiad defnyddwyr.
- Effaith ar wasanaethau a’r gweithlu.
- Fforddiadwyedd a chynaliadwyedd.
- Parodrwydd i fabwysiadu’r prosiect.
- Hyblygrwydd yn y dyfodol.
Dylai ymgeiswyr ddisgrifio’r canlynol yn fanwl:
- Yr hyn maent yn cynnig ei gyflawni.
- Sut caiff ei brofi a’i werthuso.
- Sut caiff yr effaith ei mesur.
- Sut y gallai’r datrysiad esblygu yn y dyfodol.
- Cynllun cyflawni craidd hyd at 31 Mawrth 2027, gan gynnwys gweithgareddau, cerrig milltir, deilliannau a chostau.
Dylai ymgeiswyr ddisgrifio’r canlynol ar ffurf amlinelliad:
- Cynnig ar wahân ar gyfer cam pellach posibl y tu hwnt i Ebrill 2027, gan gynnwys y gweithgareddau, deilliannau, canlyniadau, cerrig milltir, terfynau amser a chostau ychwanegol.
- Sut y byddai’r cam pellach yn adeiladu ar y dystiolaeth a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y prosiect craidd.
- Pa werth ychwanegol y byddai’r cam pellach yn ei gyflawni ar gyfer y sawl sydd wedi goroesi strôc, gwasanaethau a’r llwybr adfer ehangach.
- Sut y byddai’r prosiect craidd yn parhau i fod yn hyfyw ac yn arwain at allbynnau ystyrlon os na fydd cyllid pellach ar gael.
Dull Datblygu
Mae gan GIG Cymru ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n gallu cynnig buddion ymarferol o fewn cyfnod y prosiect gan greu’r sylfeini ar gyfer gwelliant yn y tymor hwy.
Yn y lle cyntaf, efallai y bydd prosiectau’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar y llwybr adsefydliad ac adferiad ac yna yn cael ei fireinio trwy gael eu rhoi ar waith, adborth gan ddefnyddwyr, gwerthuso a gwersi a ddysgwyd gan wasanaethau.
Ni ddisgwylir i ymgeiswyr ddatrys pob agwedd ar adsefydlu strôc sy’n rhan o brosiect unigol. Yn hytrach na hynny, rydym yn chwilio am ddatrysiadau ymarferol sy’n gallu dangos gwerth mesuradwy gan greu cyfleoedd ar gyfer trawsnewid ehangach dros amser.
Galluoedd a Hyblygrwydd yn y Dyfodol
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn datrysiadau sy’n creu galluoedd a gwersi i’w dysgu sy’n gynaliadwy ar gyfer GIG Cymru. Dylai ymgeiswyr ddisgrifio sut y gallai eu datrysiad esblygu dros amser ac ategu mabwysiadu ehangach lle bo’n briodol.
Dylai ymgeiswyr ddangos sut y gallai eu datrysiad gael eu rhoi ar waith yn eang ar draws Cymru, gan gynnwys cymunedau gwledig, anghysbell a gwasgaredig ar lefel ddaearyddol, gan gynnal cysondeb o ran profiad defnyddwyr ac ansawdd cymorth.
Er mai ffocws pennaf yr her hon yw adsefydliad ac adferiad strôc, gallai datrysiadau a allai dangos y potensial i gael eu trosglwyddo i leoliadau neu wasanaethau eraill yn y dyfodol fod o fantais.
Cydweithio a Gweithio mewn Partneriaeth
Bydd cydweithio yn hanfodol i lwyddiant yr her hon.
Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio’n agos gyda sefydliadau GIG Cymru, clinigwyr, timau adsefydlu, staff gweithredol, pobl sydd â phrofiad byw, gofalwyr a sefydliadau trydydd sector perthnasol trwy gydol cylch oes y prosiect.
Disgwylir i’r Gymdeithas Strôc gyflawni rôl bwysig o ran datblygu a chyflawni heriau. Mae hyn yn cynnwys cymorth o ran dylunio gwasanaethau, datblygu gofynion, mynediad at brofiad byw, gweithgareddau ymgysylltu, profion, gwerthuso a lledaenu. Mae’r Gymdeithas Strôc hefyd wedi canfod diddordeb posibl mewn cefnogi prosiectau yn y dyfodol yn amodol ar gymeradwyo cyllidebau a lle bo datrysiadau’n cyd-fynd â blaenoriaeth strategol y sefydliad; i fynd i’r afael â chanlyniadau torcalonnus strôc.
Mae’r Gymdeithas Strôc yn credu y dylai pawb sydd wedi goroesi strôc gael cymorth i gael yr adferiad gorau posibl, fel y gallant symud y tu hwnt i oroesi strôc yn unig er mwyn adennill eu bywydau eto. Gallwch ddarllen rhagor am strategaeth y Gymdeithas Strôc ar: https://www.stroke.org.uk/about-us/corporate-strategy
Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol yn glir:
- Eu dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Sut y bydd profiad byw yn sail i ddatblygu a gwerthuso.
- Sut byddant yn cydweithio â phartneriaid ym maes heriau.
- Sut byddant yn rhoi cymorth o ran gweithredu a mabwysiadu.
- Sut byddant yn cynnig cymorth emosiynol yn y tymor hir, yn benodol, ar gyfer y sawl sydd wedi goroesi strôc a lleihau teimladau pobl bod eraill yn cefnu arnynt.
- Sut mae eu prosiect yn cyd-fynd â ffocws strategol y Gymdeithas Strôc.
Bydd cyd-ddylunio ystyrlon â’r sawl sydd wedi goroesi strôc yn cael ei ystyried i fod yn elfen bwysig o brosiectau llwyddiannus.
Gofynion o ran y Gymraeg
Mae Cymru yn genedl ddwyieithog ac mae’n rhaid i ystyriaethau o ran y Gymraeg fod yn rhan annatod o ddylunio datrysiadau. Dylai ymgeiswyr ystyried y Gymraeg, hygyrchedd a mynediad teg gyda’i gilydd drwy gydol y broses ddylunio, gan gydnabod anghenion amrywiol y sawl sydd wedi goroesi strôc, ar draws cymunedau trefol, gwledig ac anghysbell yng Nghymru.
Mae’n rhaid i unrhyw ddatrysiad llwyddiannus yn cynnwys gwybodaeth sy’n dod i gysylltiad â chleifion, y cyhoedd neu ddefnyddwyr gynnwys darpariaeth Gymraeg a Saesneg fel rhan o weithgarwch datblygu Cam 2.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos sut bydd eu datrysiad yn gwneud y canlynol:
- Yn ategu darpariaeth gwasanaeth dwyieithog.
- Sicrhau bod defnyddwyr Cymraeg a Saesneg yn cael profiad cyfatebol.
- Yn sicrhau eu bod yn ddwyieithog trwy ddyluniad, yn hytrach na dibynnu ar gyfieithiad fel ateb ôl-weithredol.
- Cefnogi pobl i ymgysylltu yn eu dewis iaith.
- Darparu cyfathrebiadau a chynnwys yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Cefnogi egwyddorion y Cynnig Rhagweithiol.
- Ystyried gofynion o ran y Gymraeg a hygyrchedd gyda’i gilydd trwy gydol gweithgareddau dylunio, profi a gweithredu.
- Cynnwys defnyddwyr Cymraeg mewn gweithgareddau profi a gwerthuso lle bo hynny’n briodol.
Dylai swyddogaethau Cymraeg gael eu hymgorffori o adeg dechrau’r prosiect ac ni ellir eu trin fel ateb ôl-weithredol na modiwl dewisol.
Lle bo datrysiadau’n ymgorffori dulliau awtomatig, deallusrwydd artiffisial, cymorth gyda phenderfyniadau neu swyddogaethau digidol uwch, dylai ymgeiswyr esbonio sut bydd darpariaeth y Gymraeg yn cael ei chynorthwyo a’i chynnal yn deg wrth i’r datrysiad esblygu.
Efallai y bydd ymgeiswyr yn gweld yr adnoddau a ganlyn yn ddefnyddiol:
Caiff datrysiadau sydd â galluoedd amlieithog ehangach eu hannog hefyd lle bydd hyn yn ategu hygyrchedd, cynhwysiant neu anghenion poblogaethau amrywiol, ar yr amod bod modd cynnal darpariaeth Cymraeg a Saesneg yn llawn.
O fewn Cwmpas
Mae gennym ddiddordeb mewn datrysiadau sy’n cyfrannu at wella llesiant a chanlyniadau iechyd meddwl, yn ogystal ag un neu fwy o’r canlynol:
- Gwellhad ac adsefydliad yn sgil strôc.
- Niwroadsefydliad yn y gymuned.
- Dulliau hunanreoli ac annibyniaeth.
- Gymorth emosiynol a seicolegol.
- Dilyniant gofal yn dilyn rhyddhau o’r ysbyty.
- Ymgysylltu â chleifion a’u cymell.
- Cymorth i deuluoedd a gofalwyr.
- Mesur canlyniadau ac olrhain hanes adferiad.
- Cydlynu gwasanaethau a rheoli llwybrau.
- Technolegau adsefydlu digidol.
- Technolegau Cynorthwyol
- Deallusrwydd Artiffisial ac arloesi digidol.
- Adsefydlu o bell a modelau cymorth.
- Cynllunio adsefydlu a phersonoli.
- Darpariaeth gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
- Lleihau teimladau unigolion bod eraill yn cefnu arnynt ar ôl strôc.
Tu Hwnt i’r Cwmpas
Nid ydym yn chwilio am brosiectau sy’n gwneud y canlynol:
- Sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddiagnosis strôc acíwt neu driniaeth.
- Sy’n canolbwyntio ar atal strôc yn unig.
- Sy’n canolbwyntio ar un agwedd benodol yn unig yn ymwneud ag adsefydlu corfforol, megis therapi ar yr aelodau uchaf neu gwymp y traed, heb ddangos cyfraniad cyfannol at lesiant y claf.
- Sy’n gofyn am ymchwil sylfaenol helaeth cyn bo modd i waith datblygu ddechrau.
- Sy’n academaidd yn bennaf neu sy’n astudiaethau ymchwil lle nad oes unrhyw lwybr hygyrch i’w rhoi ar waith.
- Nad ydynt yn gallu dangos technoleg, gwasanaeth neu sylfaen dechnoleg sy’n bodoli eisoes.
- Na allant ddangos llwybr realistig at fabwysiadu yn GIG Cymru.
- Sy’n dibynnu ar ddarpariaeth uniaith Saesneg ar gyfer cyfranogwyr.
- Sy’n ceisio disodli arolygu clinigol neu arolygu proffesiynol priodol.
- Sy’n canolbwyntio ar gasglu data yn unig heb lwybr clir at wella canlyniadau adsefydlu.
Fforddiadwyedd, Cynaliadwyedd a Mabwysiadu
Mae fforddiadwy a chynaliadwyedd yn ofynion canolog i’r her hon.
Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol:
- Fforddiadwyedd y tu hwnt i gyfnod y prosiect a ariennir.
- Llwybr realistig at fabwysiadu yn GIG Cymru.
- Hyblygrwydd ar draws Cymru.
- Cyfleoedd i wella canlyniadau ac effeithlonrwydd gwasanaethau.
- Cynaliadwyedd hirdymor.
- Y gallu i weithredu’n effeithiol ar draws lleoliadau trefol a gwledig.
- Gwerth cyffredinol y cynnig i GIG Cymru, gan gynnwys eu hymrwymiad i gyfraniadau ychwanegol y tu allan i’r costau a amlinellwyd.
- Aliniad â blaenoriaeth strategol y Gymdeithas Strôc.
Dylai datrysiadau ddangos sut y gallent droi’n ddarpariaeth weithredol gynaliadwy os bydd y prosiect yn llwyddiannus.
Buddion Ehangach i Gymru
Anogir ymgeiswyr i ystyried y buddion ehangach y gallai eu cynnig eu cyflawni dros Gymru.
Gallai’r rhain gynnwys:
- Rhoi cymorth i bobl o ran parhau i fod yn annibynnol ac i fod yn weithgar ar lefel economaidd.
- Galluogi pobl i ddychwelyd at y gwaith neu at weithgareddau dyddiol yn dilyn strôc.
- Rhoi cymorth i ofalwyr a theuluoedd.
- Lleihau anghydraddoldebau o ran mynediad at adsefydlu.
- Datblygu sgiliau, galluoedd ac arloesi yng Nghymru.
- Rhoi cymorth o ran arloesi dwyieithog.
- Creu buddion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol neu gymunedol ehangach.
Dyrannu Cyllid a Manylion y Prosiect
Math o Gystadleuaeth: Cam 2 – Datblygu ac Arddangos mewn Sefyllfa Wirioneddol
Y cyllid sydd ar gael: £300,000
Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael.
Nifer y Prosiectau: Mae cyllid ar gael ar hyn o bryd i gefnogi portffolio o brosiectau, yn dibynnu ar nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbynnir.
Dull Portffolio
Gellir gwneud penderfyniadau ynghylch cyllid gan ddefnyddio dull portffolio, gan gydnabod bod gwella adferiad a lleihau nifer yr unigolion sy’n teimlo bod eraill yn cefnu arnynt ar ôl strôc yn her gymhleth lle y gallai nifer o ddatrysiadau ategol fod yn fuddiol yn hytrach nag un ymyriad yn unig.
Gellir ystyried cydbwysedd cyffredinol y prosiectau a gefnogir, y dystiolaeth a gynhyrchir, cyfleoedd ar gyfer cydweithio a dysgu rhwng prosiectau, a’r potensial ar gyfer mabwysiadu ehangach a gwersi i’w dysgu ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
Gall datrysiadau fynd i’r afael ag agweddau gwahanol adsefydlu, dulliau hunanreoli, adferiad, cydlynu gwasanaethau, cymorth i deuluoedd, hygyrchedd, galluoedd digidol, technoleg gynorthwyol, data, dadansoddeg neu fesur canlyniadau. Gyda’i gilydd, gall y rhain gyfrannu at yr uchelgais ehangach o wella canlyniadau gwella bywyd ar ôl strôc ledled Cymru.
Cyllid posibl pellach: Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael i roi cymorth o ran cam datblygu pellach neu arddangosiad ar ôl Ebrill 2027. Nid yw’r cyllid hwn wedi cael ei gadarnhau ar hyn o bryd ac ni ddylid tybio ei fod yn rhan o’r dyfarniad prosiect cychwynnol. Byddai unrhyw benderfyniad i roi cyllid pellach yn amodol ar argaeledd cyllid, perfformiad prosiectau, tystiolaeth o werth a blaenoriaethau’r partneriaid sydd ynghlwm wrth yr her.
Hyd y Prosiect
Disgwylir i brosiectau ddechrau ym mis Tachwedd 2026 ac i ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2027.
Gallai prosiectau gynnwys cyfnod cychwynnol yn canolbwyntio ar ffurfweddu datrysiadau, addasu, integreiddio a pharatoi ar gyfer gweithredu, cyn cynnal profion mewn sefyllfaoedd gwirioneddol, dysgu a mireinio ailadroddol.
Disgwylir i gyfnod y prosiect cychwynnol a ariennir ddod i ben erbyn 31 Mawrth 2027. Ar yr amod bod cyllid ychwanegol ar gael, bod cynnydd boddhaol yn cael ei wneud a bod gwerth yn cael ei ddangos yn ystod cyfnod cychwynnol y prosiect, efallai y gellid ystyried ymestyn prosiectau dethol y tu hwnt i Ebrill 2027.
Dylai ymgeiswyr gynnwys cynnig sydd wedi’i ddiffinio’n glir ar gyfer y cam pellach posibl hwn, yn amlinellu’r gweithgareddau ychwanegol, y deilliannau, y canlyniadau, y cerrig milltir, y terfynau amser a’r costau. Dylai’r cynnig gael ei gyflwyno ar wahân i’r cynnig prosiect craidd a dylai esbonio sut y byddai’r cam pellach yn adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y cyfnod cychwynnol a ariannwyd yn hytrach na’i ddyblygu.
Nid yw unrhyw estyniadau na chyllid cysylltiedig wedi’u gwarantu a byddant yn amodol ar argaeledd cyllid, perfformiad prosiectau, tystiolaeth o werth a chytuno ar wahân. Felly, mae’n rhaid i geisiadau ddangos bod y prosiect craidd yn parhau i fod yn hyfyw a’i fod yn cyflawni allbynnau ystyrlon erbyn 31 Mawrth 2027, waeth fydd y cam pellach yn mynd rhagddo ai peidio.
Dylai ymgeiswyr ddarparu cynllun cyflawni realistig, gan gynnwys cerrig milltir allweddol, gweithgareddau profi, dulliau gwerthuso ac allbynnau disgwyliedig.
Dyddiadau Allweddol
| Gweithgaredd | Dyddiad |
| Dyddiad agor y gystadleuaeth | 22 Medi 2026 |
| Digwyddiad Briffio | 2 Hydref 2026 |
| Dyddiad cau’r gystadleuaeth | 20 Hydref 2026 |
| Asesu a Llunio’r Rhestr Fer | Gan ddechrau 21 Hydref 2026 |
| Cyflwyniadau gan Gyflenwyr | I’w gadarnhau |
| Dyfarnu Contractau | Tachwedd 2026 |
| Prosiectau’n Dechrau | Tachwedd 2026 |
| Dyddiad Cwblhau Prosiectau | Mawrth 2027 |
| Cyflwyno Adroddiadau Terfynol | Mawrth 2027 |
Gallai’r dyddiadau hyn newid
Digwyddiad Briffio
I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir, i’w gynnal yn 2 Hydref 2026, dilynwch y ddolen isod:
Microsoft Teams – Briefing Event
Sut i Wneud Cais
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon drwy: https://sdi.click/abandonment-after-stroke-cy
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn contract safonol Contractau ar gyfer Arloesi Cymru i gyflawni’r gweithgarwch arfaethedig. Gan mai templed safonol a ddefnyddir ledled y DU yw hwn, nid yw’r telerau na’r amodau yn agored i’w newid. Felly, dylech ymgyfarwyddo â’r contract drafft cyn cyflwyno eich cais
Gweledigaeth Hirdymor
Nid cyflwyno offer neu dechnolegau newydd yn unig yw uchelgais yr her hon.
Y cyfle yn y tymor hwy yw creu ymagwedd sy’n fwy cydgysylltiedig, teg a chynaliadwy tuag at adsefydlu ac adfer yng Nghymru, gan sicrhau bod y sawl sydd wedi goroesi strôc yn gallu manteisio ar gymorth priodol, cyflawni’r canlyniadau gorau posibl a lle nad ydynt yn teimlo bod eraill wedi cefnu arnynt yn ystod eu taith adferiad, waeth ble maent yn byw.
Bydd y ceisiadau cryfaf yn dangos yr effaith ymarferol yn y tymor byr gan greu sylfeini ar gyfer trawsnewid ehangach ar draws gwasanaethau adsefydlu ac adfer yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Contracts for Innovation – Innovate UK Business Connect


