Application Deadline20th Oct 2026

Trawsnewid Diogelu Amlasiantaethol mewn Achosion o Gam-drin Domestig Risg Uchel yn Ne Cymru 

Cyflwyniad 

Mae cam-drin domestig yn parhau i fod yn un o’r heriau mwyaf arwyddocaol o ran diogelu’r cyhoedd yn Ne Cymru. I’r bobl hynny sy’n wynebu’r risg uchaf o niwed difrifol neu lofruddiaeth, gall ymyriadau diogelu amserol a chydlynu effeithiol rhwng asiantaethau fod yn hollbwysig er mwyn lleihau niwed a gwella canlyniadau o ran diogelwch. 

Ar hyn o bryd, mae Heddlu De Cymru a’i bartneriaid yn darparu gwasanaethau diogelu drwy brosesau’r Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC)1. Mae MARAC, mecanwaith sydd wedi hen ymsefydlu, yn dwyn sefydliadau ynghyd i rannu gwybodaeth, asesu risgiau a chydlynu camau gweithredu ar gyfer dioddefwyr sy’n profi cam-drin domestig risg uchel. Datblygwyd yr egwyddorion sy’n sail iddo dros 20 mlynedd yn ôl, ar adeg pan oedd rheoli risg a’r galw yn sylweddol wahanol i’r heriau sy’n wynebu asiantaethau heddiw. Mae MARAC yn parhau i fod yn un o’r trefniadau diogelu pwysicaf sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus, ac mae’n rhan hanfodol wrth ddiogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.  

Fodd bynnag, mae’r model presennol dan bwysau cynyddol. Bob blwyddyn ledled De Cymru, rheolir mwy na 5,000 o achosion cam-drin domestig risg uchel drwy saith ardal unigol MARAC sy’n gweithredu yn ardaloedd awdurdodau lleol Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Gyda’i gilydd, mae hyn yn cyfateb i tua 44% o’r galw am MARAC yng Nghymru. Mae strwythurau llywodraethu lleol wedi arwain at amrywiadau i brosesau MARAC, ac mae’r dulliau lleol hyn wedi esblygu dros amser yn bennaf mewn ymateb i’r galw cynyddol ar y partneriaethau, gan arwain at amrywiadau o ran y ddarpariaeth, baich gweinyddol cynyddol, a heriau o ran cynnal cysondeb ar draws y rhanbarth.  

Mae’r galw’n parhau i gynyddu a’r achosion yn dod yn fwy cymhleth. Mewn rhai ardaloedd, trafodwyd tua 70 o achosion yn ystod un cyfarfod wythnosol MARAC, a chodwyd pryderon ynghylch oedi rhwng cyfeirio a thrafod achosion, yn ogystal â diffyg atebolrwydd am gamau gweithredu a ddyrannwyd i asiantaethau. Yn ddiweddar, codwyd pryderon ar lefel genedlaethol ynghylch model gweithredu MARAC, ac mae adolygiadau statudol o drefniadau diogelu ledled Cymru a Lloegr yn parhau i nodi themâu tebyg mewn achosion lle cafwyd canlyniadau anffafriol a lle bu MARAC yn ffactor a gyfrannodd at hynny. Gellir dosbarthu’r pryderon cyfunol hyn ynghylch MARAC yn themâu: rhannu gwybodaeth yn dameidiog, prosesau anghyson, ac oedi wrth nodi a lliniaru risgiau sy’n dwysáu. 

Mae Heddlu De Cymru yn gweithio ar draws pob grŵp llywodraethu MARAC yn y rhanbarth, ac ar y cyd â Chomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru a phartneriaid diogelu ehangach, mae wedi nodi cyfle i archwilio a all dulliau gwahanol o weithio arwain at ganlyniadau diogelu cynt, mwy cyson ac effeithiol i ddioddefwyr cam-drin domestig. Datblygwyd yr her yn dilyn ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid ac mae’n adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gyffredin y gall fod angen i ddulliau yn y dyfodol symud y tu hwnt i’r model MARAC traddodiadol sy’n seiliedig ar gyfarfodydd. 

Yr Her 

Rydym yn chwilio am sefydliadau arloesol i helpu Heddlu De Cymru a’i bartneriaid i archwilio sut y gall trefniadau diogelu rhag achosion o gam-drin domestig risg uchel weithredu’n wahanol yn y dyfodol. 

Mae’r her hon wedi’i chynllunio’n fwriadol i ganolbwyntio ar ganlyniadau, ac nid yw’n pennu technoleg, math o gynnyrch neu fodel cyflawni penodol. 

Anogir ymgeiswyr i gynnig y dull y maen nhw’n ei gredu a fydd yn mynd i’r afael orau â’r her, ac i ddangos sut y gallai eu harbenigedd helpu i ddatblygu model diogelu mwy ymatebol, cydgysylltiedig a chynaliadwy ar gyfer De Cymru. 

Mae’r her yn ymwneud â mwy na chyflwyno technoleg newydd neu ddigideiddio’r cyfarfodydd MARAC presennol. Er y gall technoleg, data a deallusrwydd artiffisial fod yn rhan o’r datrysiad, mae’r partneriaid wedi nodi’r angen i archwilio ailgynllunio ehangach mewn perthynas â gwasanaethau, llywodraethiant a modelau gweithredu. 

Mae gennym ni ddiddordeb mewn sefydliadau a all helpu i ateb cwestiynau megis: 

  • Sut y gellir nodi, blaenoriaethu ac uwchgyfeirio risg yn fwy effeithiol? 
  • Sut y gall sefydliadau gydweithio mewn ffyrdd sy’n fwy deinamig ac effeithlon? 
  • Sut y gellir cydlynu camau diogelu yn fwy effeithiol ar draws asiantaethau i sicrhau atebolrwydd? 
  • Sut y gall gweithwyr proffesiynol dreulio llai o amser yn rheoli gwaith gweinyddol sy’n ymwneud â MARAC, a mwy o amser yn darparu ymyriadau diogelu ar gyfer y bobl hynny sy’n agored i niwed? 
  • Sut y gellir rhannu gwybodaeth yn fwy effeithiol wrth gynnal gweithdrefnau llywodraethiant ac atebolrwydd priodol? 
  • Sut y gellir datblygu modelau ar gyfer y dyfodol, gan ddefnyddio arferion a thechnoleg cyfredol i lunio model ymarferol, fforddiadwy a chynaliadwy, wrth gydbwyso dyletswyddau statudol a chyfrifoldebau anstatudol o fewn, ac ar draws trefniadau partneriaeth. 
  • Sut y gall arloesedd ategu gwell canlyniadau diogelu heb greu rhagor o gymhlethdodau? 

Ni ddylai ymgeiswyr dybio mai technoleg yw’r unig ateb. Rydym yn croesawu cynigion sy’n cyfuno dylunio gwasanaethau, meddwl systemau, ailgynllunio gweithredol, arloesedd o ran llywodraethiant, dulliau ymddygiadol, arloesedd digidol, data, dadansoddeg a deallusrwydd artiffisial i archwilio sut y gall diogelu amlasiantaethol esblygu.  

Canlyniadau Dymunol 

Mae gennym ddiddordeb mewn dulliau a all gyfrannu at welliannau mesuradwy mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol. 

Canlyniadau Diogelu 

  • Nodi risgiau sy’n dwysáu yn gynharach. 
  • Mecanwaith cyfeirio sy’n fwy effeithlon. 
  • Ymyriadau diogelu cyflymach. 
  • Gwella’r dulliau i adnabod pobl sydd â’r anghenion cymorth mwyaf. 
  • Lleihau’r angen i drafod achos drosodd a throsodd er mwyn lleihau’r dioddef. 
  • Arferion cydweithio gwell ar gyfer achosion cymhleth lle mae angen cymorth lluosog gan asiantaethau gwahanol. 
  • Gwell cyfathrebu ynghylch canlyniadau i ddioddefwyr a theuluoedd, a rhoi mwy o flaenoriaeth i leisiau dioddefwyr a phlant o fewn y model.  

Profiad y Dioddefwr 

  • Cymorth diogelu sy’n fwy cyson ble bynnag fo’r lleoliad. 
  • Gwell cydlynu rhwng asiantaethau. 
  • Llai o oedi wrth gael mynediad at gymorth. 
  • Ymyriadau diogelu sy’n fwy ymatebol. 
  • Gwella hyder mewn prosesau diogelu. 
  • Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio diogelwch a rhoi diweddariad ar achosion.  

Ymarfer Proffesiynol 

  • Llai o faich gweinyddol. 
  • Gwell mynediad at wybodaeth berthnasol. 
  • Gwell cydlynu a chyfathrebu rhwng sefydliadau. 
  • Mwy o eglurder ynghylch penderfyniadau a chamau gweithredu. 
  • Gwell atebolrwydd ac olrhain camau gweithredu. 
  • Mwy o amser i weithwyr proffesiynol ganolbwyntio ar weithgareddau diogelu.  

Darparu Gwasanaethau a Thegwch 

  • Llai o amrywiad rhwng trefniadau MARAC gwahanol. 
  • Dulliau diogelu mwy cyson ledled De Cymru. 
  • Gwell dulliau rhannu gwybodaeth. 
  • Gwell gwelededd o risg. 
  • Canlyniadau diogelu tecach ble bynnag fo’r lleoliad daearyddol. 
  • Gwell cydweithio mewn partneriaeth.  

Canlyniadau’r System 

  • Gwell defnydd o adnoddau cyhoeddus. 
  • Llai o ddyblygu gweithgarwch. 
  • Gwell deallusrwydd gweithredol. 
  • Gwell llywodraethiant a goruchwyliaeth. 
  • Tystiolaeth gryfach ar gyfer trawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol. 
  • Gwell dealltwriaeth a mesuriad o ganlyniadau diogelu.  

Cynaliadwyedd 

  • Ymagweddau fforddiadwy a hyblyg. 
  • Cynaliadwyedd hirdymor y tu hwnt i gyfnod y prosiect a ariennir. 
  • Llwybr realistig at y broses o roi’r prosiect ar waith. 
  • Dulliau y gellir eu mabwysiadu mewn rhanbarthau eraill yn y dyfodol lle bo’n briodol. 
  • Creu galluedd a all gynorthwyo i drawsnewid diogelu yn y dyfodol.  

Dylai ymgeiswyr nodi’n glir ar ba ganlyniadau y mae disgwyl i’w prosiect ddylanwadu arnynt, a’u hasesu. 

Cam 1: Darganfod a Datblygu Cysyniadau 

Mae’r her hon yn cael ei chyflwyno fel cystadleuaeth Contractau ar gyfer Arloesi Cymru Cam 1. 

Mae Heddlu De Cymru a’u partneriaid yn cydnabod bod hon yn her system gymhleth. Er i’r angen am newid gael ei nodi, ni chytunwyd ar un datrysiad na model ar gyfer y dyfodol hyd yma. Mae’r gystadleuaeth hon felly’n canolbwyntio ar ddarganfod, archwilio, cynhyrchu tystiolaeth a datblygu cysyniadau. 

Rydym yn chwilio am sefydliadau sy’n gallu helpu i ddiffinio sut y gallai model diogelu ar gyfer y dyfodol edrych – model sydd â’r potensial i gael ei ehangu i ardaloedd MARAC eraill – a pha gamau ymarferol a allai fod eu hangen i’w roi ar waith. 

Dylai prosiectau helpu i gynhyrchu tystiolaeth sy’n ymwneud â’r canlynol: 

  • Anghenion defnyddwyr a rhanddeiliaid. 
  • Rhwystrau a heriau cyfredol. 
  • Opsiynau ar gyfer model gweithredu ar gyfer y dyfodol. 
  • Ystyriaethau llywodraethiant. 
  • Gofynion rhannu gwybodaeth. 
  • Cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd gweinyddol. 
  • Cyfleoedd digidol a data. 
  • Cyfleoedd deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. 
  • Ystyriaethau ymarferoldeb a chyflwyno/gweithredu. 
  • Fforddiadwyedd a chynaliadwyedd. 

Nid oes disgwyl i ymgeiswyr ddarparu datrysiad sydd wedi’i ddatblygu’n llawn ar y cam hwn.  

Dull Datblygu 

Mae Heddlu De Cymru â diddordeb mewn dulliau sy’n gallu cynhyrchu tystiolaeth ymarferol, mewnwelediad ystyrlon ac argymhellion y gellir gweithredu arnynt. 

Gall prosiectau gynnwys: 

  • Darganfod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. 
  • Dylunio gwasanaethau a mapio systemau. 
  • Ymchwil defnyddwyr a chyd-ddylunio. 
  • Dadansoddiad o’r sefyllfa bresennol. 
  • Adolygiad o lywodraethiant. 
  • Dylunio model gweithredu ar gyfer y sefyllfa yn y dyfodol. 
  • Modelu blaenoriaethu a didoli risgiau. 
  • Asesiadau rhannu gwybodaeth. 
  • Asesiadau o gyfleoedd digidol. 
  • Archwilio deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. 
  • Dylunio a dilysu’r cysyniad. 
  • Asesiad dichonoldeb. 
  • Datblygu map. 

Nid oes disgwyl i ymgeiswyr ddatrys pob agwedd ar yr her yn ystod Cam 1. Yn hytrach, rydym yn chwilio am ddulliau sy’n gallu creu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, a chamau posibl eraill yn y dyfodol. Gall ymgeiswyr ddewis canolbwyntio’r datrysiadau arfaethedig naill ai ar weithrediad proses MARAC (Model MARAC) neu ar yr her o ran gweinyddu a llywodraethiant; neu geisio datblygu datrysiadau sy’n mynd i’r afael â’r dull gweithredu yn ei gyfanrwydd.  

Galluoedd a Hyblygrwydd yn y Dyfodol 

Er bod yr her hon wedi’i datblygu gan Heddlu De Cymru a’i bod yn canolbwyntio ar ddiogelu yn Ne Cymru, dylai ymgeiswyr ystyried sut y gellid mabwysiadau dulliau llwyddiannus yn ehangach y dyfodol. Mae diddordeb ar lefel genedlaethol (yn arbennig gan yr heddlu, y gwasanaeth prawf ac asiantaethau iechyd) mewn datblygu model cynaliadwy ar gyfer diogelu dioddefwyr cam-drin domestig ac mae gan Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hefyd ddiddordeb mewn datrysiadau MARAC.  

Dylai ymgeiswyr ddangos sut y gall eu dulliau: 

  • Weithredu ar draws strwythurau sefydliadol gwahanol. 
  • Cynnal cysondeb wrth ddarparu ar gyfer gofynion lleol. 
  • Gweithio ochr yn ochr â systemau a phrosesau presennol. 
  • Parhau i fod yn fforddiadwy dros amser. 
  • Ei roi ar waith ar draws rhanbarthau ehangach yn y dyfodol os bydd yn llwyddiannus. 
  • Creu gwybodaeth a gallu y gellir eu trosglwyddo i leoliadau diogelu eraill. 

Y nod yw gwella canlyniadau diogelu yn Ne Cymru yn gyntaf, gan ddysgu gwersi a allai fod yn werthfawr mewn rhannau eraill o Gymru ac yn y DU yn y dyfodol.  

Cydweithio a Phartneriaeth 

Bydd cydweithio yn hanfodol i lwyddiant yr her hon. 

Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio’n agos gyda: 

  • Heddlu De Cymru 
  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru 
  • Grwpiau Llywodraethiant MARAC Rhanbarthol 
  • Canolfan Genedlaethol Trais ac Amddiffyn y Cyhoedd 
  • Y Swyddfa Gartref 
  • Awdurdodau Lleol 
  • Byrddau Iechyd a sefydliadau’r GIG 
  • Sefydliadau arbenigol ym maes cam-drin domestig 
  • Sefydliadau trydydd sector 
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu  
  • Arbenigwyr llywodraethiant gwybodaeth 
  • Rhanddeiliaid ehangach yr her lle bo hynny’n briodol  

Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol yn glir: 

  • Eu dull o ymgysylltu â rhanddeiliaid. 
  • Sut y bydd ymarferwyr yn llywio’r broses ddatblygu. 
  • Sut y bydd sefydliadau’n cael eu cynnwys drwy gydol y prosiect. 
  • Sut y bydd ystyriaethau ynghylch cyflwyno’r gwaith a’i fabwysiadu yn y dyfodol yn cael sylw. 

Bydd ymgysylltu ystyrlon â gweithwyr proffesiynol ym maes diogelu a sefydliadau partner yn cael ei ystyried yn elfen bwysig o brosiectau llwyddiannus. 

Gofynion o ran y Gymraeg 

Mae Cymru yn genedl ddwyieithog, ac mae’n rhaid i ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg fod yn rhan annatod o gynllunio a chyflwyno prosiectau. Dylai ymgeiswyr ystyried y Gymraeg, hygyrchedd a mynediad teg gyda’i gilydd drwy gydol y prosiect, gan gydnabod amrywiol anghenion defnyddwyr gwasanaethau, cymunedau a gweithwyr proffesiynol ledled De Cymru. 

Dylai unrhyw ddull llwyddiannus sy’n cynnwys gwasanaethau sy’n wynebu defnyddwyr, cyfathrebu, gweithgareddau ymgysylltu, swyddogaethau digidol neu offer cefnogi penderfyniadau ystyried darpariaeth Cymraeg a Saesneg o ddechrau’r datblygiad yn hytrach nag fel gwelliant at y dyfodol. 

Rhaid i ymgeiswyr ddangos sut y bydd eu dull yn: 

  • Cefnogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog. 
  • Sicrhau fod defnyddwyr Cymraeg a Saesneg yn cael profiad cyfatebol. 
  • Dwyieithog yn ôl cynllun lle bo’n briodol. 
  • Cefnogi pobl i ymgysylltu yn eu dewis iaith. 
  • Ystyried y Gymraeg a’r gofynion hygyrchedd gyda’i gilydd. 
  • Cefnogi egwyddorion y Cynnig Gweithredol. 
  • Cynnwys rhanddeiliaid sy’n siarad Cymraeg lle bo’n briodol mewn gweithgareddau ymgysylltu a phrofi. 
  • Ystyried sut y caiff gofynion yr iaith Gymraeg eu diwallu wrth i ddatrysiadau esblygu. 

Dylid ymgorffori swyddogaethau yn yr iaith Gymraeg o’r cam cychwynnol, ac ni ddylid eu hystyried yn welliant dewisol. 

Efallai y bydd ymgeiswyr yn gweld yr adnoddau canlynol yn ddefnyddiol: 

Anogir prosiectau sy’n atgyfnerthu arloesedd a darparu gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog. 

O fewn y Cwmpas 

Mae gennym ddiddordeb mewn prosiectau sy’n cyfrannu at un neu ragor o’r canlynol: 

  • Diogelu amlasiantaethol. 
  • Ymateb ac ymyrraeth ym maes cam-drin domestig. 
  • Ail-lunio gwasanaethau. 
  • Arloesedd yn y model gweithredu. 
  • Llywodraethiant ac atebolrwydd. 
  • Dosbarthu a blaenoriaethu risgiau. 
  • Rhannu gwybodaeth. 
  • Awtomeiddio gweinyddol. 
  • Ailddylunio’r llif gwaith. 
  • Data a dadansoddeg. 
  • Deallusrwydd artiffisial a chymorth i wneud penderfyniadau. 
  • Cydlynu amlasiantaethol. 
  • Gwella’r llwybr diogelu. 
  • Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth 
  • Darparu gwasanaeth yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog. 

Y Tu Allan i’r Cwmpas 

Nid ydym yn chwilio am brosiectau sy’n: 

  • Canolbwyntio’n unig ar ddisodli systemau gweithredol yr heddlu. 
  • Canolbwyntio’n unig ar gaffael meddalwedd. 
  • Digideiddio cyfarfodydd MARAC presennol y unig. 
  • Cynyddu’r baich gweinyddol. 
  • Methu dangos llwybr realistig at fabwysiadu’r prosiect yn y dyfodol. 
  • Anwybyddu ystyriaethau llywodraethiant a diogelu. 
  • Ceisio disodli barn broffesiynol ynghylch diogelu. 
  • Canolbwyntio’n llwyr ar dechnoleg heb ystyried heriau ehangach y gwasanaeth a’r model gweithredu. 

Fforddiadwyedd, Cynaliadwyedd a Mabwysiadu 

Mae fforddiadwyedd a chynaliadwyedd yn ofynion canolog i’r her hon. 

Dylai ymgeiswyr ddangos y canlynol: 

  • Fforddiadwyedd y tu hwnt i gyfnod y prosiect a ariennir. 
  • Llwybr realistig at fabwysiadu’r prosiect. 
  • Gallu i ehangu’r cynllun ledled De Cymru a thu hwnt lle bo’n briodol. 
  • Cynaliadwyedd hirdymor. 
  • Cyfleoedd i wella canlyniadau diogelu ac effeithlonrwydd gwasanaethau. 
  • Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn amgylcheddau cymhleth sy’n cynnwys nifer o asiantaethau. 
  • Cynnig gwerth clir i sefydliadau’r sector cyhoeddus. 

Dylai prosiectau ddangos sut y gellid gweithredu dulliau’r dyfodol mewn ffordd ymarferol, gynaliadwy a fforddiadwy, os profir eu bod yn llwyddiannus. 

Buddion Ehangach i Gymru 

Anogir ymgeiswyr i ystyried y manteision ehangach y gallai eu cynnig eu darparu. 

Gallai’r rhain gynnwys: 

  • Gwell diogelwch cyhoeddus. 
  • Ymyrraeth ac atal cynharach. 
  • Llai o niwed yn gysylltiedig â cham-drin domestig. 
  • Gwell cydlynu gwasanaethau cyhoeddus. 
  • Llai o anghydraddoldebau yn y ddarpariaeth diogelu. 
  • Defnydd mwy effeithlon o adnoddau cyhoeddus. 
  • Datblygu gallueodd arloesi yng Nghymru. 
  • Cryfhau gwasanaethau cyhoeddus dwyieithog. 
  • Buddion cymdeithasol, economaidd a chymunedol ehangach. 

Dyrannu Cyllid a Manylion y Prosiect 

Math o Gystadleuaeth: Cyfnod 1 Darganfod a Datblygu Cysyniad 

Cyllid ar gael: hyd at £60,000 fesul prosiect 

Nifer y Prosiectau: hyd at 6 prosiect 

Gall cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth newid ac mae’r cyllidwyr yn cadw’r hawl i addasu’r dyraniadau cyllid dros dro, h.y. pe deuai cyllid ychwanegol ar gael. 

Dull Portffolio 

Gall penderfyniadau ariannu gael eu gwneud gan ddefnyddio dull portffolio, gan gydnabod bod trawsnewid trefniadau diogelu amlasiantaethol yn her gymhleth a allai elwa ar ddulliau niferus sy’n ategu ei gilydd yn hytrach nag ymyriad unigol. 

Gellir ystyried cydbwysedd cyffredinol y prosiectau a gefnogir, y dystiolaeth a gynhyrchir, cyfleoedd ar gyfer cydweithio a dysgu rhwng prosiectau, a’r potensial ar gyfer mabwysiadu ehangach ar draws gwasanaethau cyhoeddus. 

Gall prosiectau fynd i’r afael â gwahanol agweddau ar ddiogelu, llywodraethiant, dylunio gwasanaethau, modelau gweithredu, arloesi digidol, rhannu gwybodaeth, atebolrwydd, awtomeiddio neu gydlynu. Gyda’i gilydd, gall y rhain gyfrannu at yr uchelgais ehangach o wella canlyniadau diogelu ledled De Cymru. 

Hyd y Prosiect 

Disgwylir i brosiectau ddechrau ym mis Tachwedd 2026 a gorffen erbyn mis Mawrth 2027. 

Dylai ymgeiswyr ddarparu cynllun cyflawni realistig, gan gynnwys cerrig milltir allweddol, gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid, allbynnau disgwyliedig a gweithgareddau gwerthuso. 

Dyddiadau Allweddol 

Gweithgarwch Dyddiad 
Dyddiad Agor y gystadleuaeth 22 Medi 2026 
Digwyddiad Briffio 2 Hydref 2026 
Dyddiad cau’r gystadleuaeth 20 Hydref 2026 
Asesu a Llunio’r Rhestr Fer yn dechrau ar 21 Hydref 2026 
Cyflwyniadau gan Gyflenwyr Dyddiad i’w gadarnhau 
Dyfarnu’r Contract  Tachwedd 2026  
Dechrau’r Prosiect Tachwedd 2026 
Dyddiad Cwblhau’r Prosiect 31 Mawrth 2027 
Cyflwyno Adroddiadau Terfynol Mawrth 2027 

*(Gallai’r dyddiadau hyn newid) 

Digwyddiad Briffio 

I gofrestru ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir, i’w gynnal ar 2 Hydref 2026, dilynwch y ddolen isod: 

Digwyddiad Briffio  

Sut i Wneud Cais 

Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon drwy: https://sdi.click/domestic-abuse-cy 

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn contract safonol Contractau ar gyfer Arloesi Cymru i gyflawni’r gweithgarwch arfaethedig. Gan mai templed safonol a ddefnyddir ledled y DU yw hwn, nid yw’r telerau na’r amodau yn agored i’w newid. Felly, dylech ymgyfarwyddo â’r contract drafft cyn cyflwyno eich cais. 

Gweledigaeth Hirdymor 

Nid nod yr her hon yw gwella prosesau presennol MARAC yn unig. 

Mae cyfle hirdymor i helpu Heddlu De Cymru a’i bartneriaid i archwilio dulliau mwy ymatebol, cydgysylltiedig a chynaliadwy o ddiogelu pobl sy’n wynebu’r risg uchaf o gam-drin domestig a niwed difrifol. 

Bydd y ceisiadau cryfaf yn dangos sut y gallant gynhyrchu mewnwelediad, tystiolaeth ac argymhellion ystyrlon sy’n cefnogi penderfyniadau yn y dyfodol, gan greu sylfeini ar gyfer gwella’r system yn ehangach ledled De Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, gall y gwersi a ddaw yn sgil y gwaith hwn hefyd helpu i lywio datblygiad dulliau diogelu mewn mannau eraill yng Nghymru a’r DU yn y dyfodol. 

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy 
Application Deadline9th Oct 2026

Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy