Cyfle i Dîm SBRI Adfyfyrio a Chynllunio yn ystod eu Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd yn Wrecsam

Yr wythnos diwethaf, bu tîm Canolfan Ragoriaeth SBRI ar grwydr o’u swyddfa oherwydd bod ganddyn nhw ddiwrnod cwrdd i ffwrdd yn Wrecsam — cyfle gwych i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau a heriau’r flwyddyn ddiwethaf, ac i edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd i ddod.

Yr wythnos diwethaf, bu tîm Canolfan Ragoriaeth SBRI ar grwydr o’u swyddfa oherwydd bod ganddyn nhw ddiwrnod cwrdd i ffwrdd yn Wrecsam — cyfle gwych i edrych yn ôl ar uchafbwyntiau a heriau’r flwyddyn ddiwethaf, ac i edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd i ddod.

Cynllunio ar gyfer y Dyfodol

Nid edrych yn ôl oedd unig bwrpas y dydd — roedd gosod gweledigaeth glir ac uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod hefyd yn elfen bwysig. Gyda rhaglen gynyddol o heriau a meysydd cydweithio newydd ar y gorwel, bu’r tîm yn trafod syniadau ffres, yn gosod blaenoriaethau, ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni effaith wirioneddol ar wasanaethau cyhoeddus a dinasyddion yng Nghymru.

Ychydig o Hwyl Hefyd!

Wrth gwrs, mae’n rhaid cael cyfle i wneud ambell dasg adeiladu tîm ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd — a phrofwyd ein sgiliau datrys problemau yn Ystafelloedd Dianc Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Wrecsam. . Roedd gweithio gyda’n gilydd i dorri codau, datrys posau a churo’r cloc yn ffordd wych o ymlacio, ailgysylltu, ac atgoffa ein hunain mor werthfawr yw gwaith tîm gwych (gydag ychydig bach o’r cythraul cystadleuol hefyd!).

Diolch yn fawr iawn i’r lleoliadau, ein tîm gwych, a phawb sydd wedi cefnogi’r Ganolfan dros y flwyddyn ddiwethaf. Allwn ni ddim aros i weld beth mae’r bennod nesaf yn ei gynnig i ni.

Cadwch lygad — heriau cyffrous i ddod!

Cofrestrwch i’n rhwydwaith cydweithio

I gadw’n gyfredol gyda chyfleoedd cyllido, digwyddiadau a gweithio ochr yn ochr â phobl tebyg sydd â phasiwn go iawn am arloesi a gwella iechyd, cofrestrwch yma:

&