Roedd Canolfan Ragoriaeth SBRI wrth ei bodd yn cymryd rhan yn nigwyddiad Iechyd Digidol Cymru Prifysgol Caerdydd yn Medicentre Caerdydd yr wythnos hon — diwrnod gwych o arddangos technolegau iechyd arloesol, cynnal sgyrsiau ysgogol, a chydweithio ysbrydoledig.
Tynnodd y digwyddiad sylw at bwysigrwydd cadw pobl wrth wraidd arloesedd, gyda siaradwyr ac arddangoswyr yn atgyfnerthu neges bwerus a rennir: mae newid gwirioneddol yn digwydd trwy bartneriaethau, nid cynhyrchion yn unig.
Arddangos Effaith yn y Byd Go Iawn
Roeddem yn arbennig o falch o weld dau o’n timau gwych a gefnogir gan SBRI yn rhannu eu gwaith ar y llwyfan, gan ddangos sut mae arloesedd a arweinir gan heriau yn trawsnewid llwybrau gofal ledled Cymru:
- Luscii – Rhannodd gwasanaeth Gofal Iechyd OMRON fewnwelediadau i’w partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan ddarparu datrysiadau monitro o bell sy’n helpu pobl i aros yn ddiogel ac yn iach gartref. Trwy alluogi clinigwyr i olrhain iechyd cleifion o bell, mae’r gwasanaeth yn lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty ac yn grymuso cleifion i gymryd mwy o reolaeth dros eu gofal
- Dangosodd Qure.ai eu hofferyn diagnostig canser yr ysgyfaint sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI), sy’n cael ei gyflwyno ar draws Byrddau Iechyd Cymru. Mae’r dechnoleg hon eisoes yn gwneud gwahaniaeth pendant, gan helpu clinigwyr i gyrraedd diagnosis cyflymach a mwy cywir a lleddfu gorbryder cleifion sy’n aros am ganlyniadau sy’n newid bywydau.
Mae’r prosiectau hyn yn enghreifftiau perffaith o’r hyn sy’n digwydd pan fydd cyflenwyr blaengar yn gweithio law yn llaw â thimau clinigol ymroddedig i gyd-greu datrysiadau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar y claf.
Mewnwelediadau Gwerthfawr ar sut i Reoli Newid
Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys sesiwn annibynnol gan Simply Do, a gyflwynodd nodyn atgoffa amserol nad yw arloesi llwyddiannus yn ymwneud â thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â phobl, prosesau a diwylliant. Roedd eu neges yn glir: rhowch bobl yn gyntaf, technoleg yn ail, a sicrhewch eich bod yn datrys y problemau cywir yn y ffordd gywir.
Mae Cydweithredu’n Allweddol
Dyma un neges a adleisiwyd drwy bob sesiwn a sgwrs: mae newid llwyddiannus yn dibynnu ar bobl a phartneriaethau. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl dimau clinigol, y cyflenwyr a’r sefydliadau sy’n buddsoddi eu hamser, eu hegni a’u harbenigedd i weithio gyda ni i lunio dyfodol gwell ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
Crynhodd Joy Browning, Rheolwr Partneriaeth SBRI, y diwrnod yn berffaith:
“It’s fantastic to see so many dedicated people coming together with a shared commitment to improving care through innovation. We’re proud to be part of this community and to support projects that put people at the heart of their design.”
Dyma obeithio am fwy o gydweithredu, mwy o syniadau beiddgar a mwy o ddatrysiadau a bwerir gan bobl gan wneud gwahaniaeth lle mae’r angen mwyaf.


