Gofal o Bell, Effaith Go Iawn; WAST yn Arwain y Ffordd

Cynnwys yr erthygl newyddion: Mae treial technoleg monitro iechyd o bell arloesol bellach ar waith yng Ngogledd Cymru, ac felly cleifion yn y rhanbarth yw’r rhai cyntaf yng Nghymru i elwa o’r dull arloesol hwn o dderbyn gofal cymunedol, gan leihau’r angen i gael eu derbyn i’r ysbyty.

Mae’r treial byw, sydd wedi’i ddatblygu trwy Raglen SBRI mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST), sy’n cael ei bweru gan blatfform digidol Luscii, bellach yn cefnogi cleifion mewn cartrefi gofal – drwy fonitro arwyddion hanfodol, symptomau a thueddiadau iechyd mewn amser real. Mae hyn yn garreg filltir bwysig yn y broses o gyflwyno gofal iechyd digidol ledled Cymru, gan alluogi darparwyr gofal iechyd i ddarparu gofal mwy personol sy’n ymateb yn well.

Mae lansio’r treial byw yn ffrwyth cydweithio helaeth rhwng SBRI, WAST, Luscii, a Llywodraeth Cymru. Mae’n deillio o her SBRI yn 2023 a oedd yn ffocysu ar wella gofal brys ac argyfwng – ac mae bellach yn cael ei brofi mewn lleoliadau byd go iawn gyda chleifion go iawn ar draws Gogledd Cymru.

Dywedodd Dr Sree Andole, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch i gydweithio â Chanolfan Ragoriaeth SBRI ac o fod y Bwrdd Iechyd cyntaf i ymuno â’r treial hwn, gan ddangos ein hymrwymiad i arloesedd a sicrhau’r canlyniadau gorau i’n cleifion.”

Wrth i’r treial fynd yn ei flaen, bydd gwersi o Ogledd Cymru yn llywio ehangu’r defnydd o fonitro o bell ar draws y GIG, gan ddangos sut y gall arloesedd a arweinir gan heriau fynd i’r afael yn uniongyrchol â heriau’r rheng flaen.

Cofrestrwch i’n rhwydwaith cydweithio

I gadw’n gyfredol gyda chyfleoedd cyllido, digwyddiadau a gweithio ochr yn ochr â phobl tebyg sydd â phasiwn go iawn am arloesi a gwella iechyd, cofrestrwch yma:

&