
Cyflwyno’r Broblem
Dywedwch fwy wrthym am eich problem
Cam cychwynnol Contractau ar gyfer Arloesi yw trafod eich problemau a’r heriau rydych chi a defnyddwyr eich gwasanaeth yn eu hwynebu.
Drwy lenwi’r blwch isod gallwn ddechrau gweithio gyda chi er mwyn mynd i’r afael â’ch problemau a’u troi yn her. Wrth feddwl am eich heriau, peidiwch â chanolbwyntio ar y datrysiad, dim ond y broblem. Hanfod Contractau ar gyfer Arloesi yn gyfan gwbl yw canfod y broblem, nid y datrysiad, felly rydym yn galluogi busnesau i wneud y darn hwn i ni.
Byddwch yn dawel eich meddwl y bydd unrhyw wybodaeth a rannwch gyda ni yn cael ei thrin yn sensitif ac yn gyfrinachol.
Rydym wedi cynhyrchu fideo byr sy’n rhoi amlinelliad cryno ynghylch sut mae hyn yn gweithio a’r manteision i’ch sefydliad. Gwelwch y fideo isod. Dewch i wybod sut y gallwn eich helpu chi os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus.
Cyflwyno’r Broblem
Dywedwch fwy wrthym am yr heriau rydych chi a defnyddwyr eich gwasanaeth yn eu hwynebu drwy lenwi’r ffurflen ymholi fer hon.
