Mae’n bleser gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI longyfarch pum cyflenwr rhagorol sydd wedi cwblhau Cam 2 o’n Her Lleihau Llygredd sy’n Deillio o Allyriadau Amonia Amaethyddol yn y Sector Gwartheg yn llwyddiannus.
Mae’r her uchelgeisiol hon, sydd wedi’i chynnal mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi mynd ati i nodi a datblygu datrysiadau arloesol i helpu’r sector amaethyddol i leihau allyriadau amonia niweidiol sy’n cyfrannu at lygredd aer, colli bioamrywiaeth, a dirywiad amgylcheddol mewn ardaloedd gwledig.
Yn ystod Cyfnod 2, bu ein cyflenwyr yn gweithio’n agos gyda ffermwyr, rheolwyr tir, a chynghorwyr arbenigol i arddangos eu datrysiadau mewn lleoliadau byd go iawn. Nid yn unig y mae’r arddangoswyr wedi profi hyfywedd technegol sawl dull arloesol, ond maent hefyd wedi darparu data a mewnwelediadau gwerthfawr i lywio dyfodol amaethyddiaeth gynaliadwy yng Nghymru.
Ein Cyflenwyr
Capchar Ltd – Agorodd y ffordd ar gyfer system gynhyrchu bio-olosg ar fferm sy’n fasnachol hyfyw a system rheoli tail ar y cyd sy’n lleihau allyriadau amonia ac allyriadau nitrad yn sylweddol.
Pruex Ltd – Cynhyrchodd setiau data amonia cadarn a dadansoddodd ddata ansawdd aer hanesyddol o ffermydd a gafodd eu trin â Pruex, gan leihau allyriadau amonia ar ffermydd anifeiliaid mewn tri cham: tai anifeiliaid, storio tail, a’u rhoi ar dir.
Ekogea Ltd – Dangosodd sut i leihau allyriadau amonia drwy drin slyri gwartheg gyda system gost-effeithiol sy’n cynhyrchu solidau sych y gellir eu pentyrru sy’n cynnwys maetholion gwerthfawr a dŵr glân ar gyfer gollwng yn ddiogel.
Mae Lepring Foods Ltd – Slurry For Soil (SforS) wedi dangos canlyniadau eithriadol mewn treialon fferm cynnar yng Nghymru, gan gadw nitrogen a fyddai wedi’i golli fel amonia nwyol a hyrwyddo tyfiant planhigion. Bydd yr arddangoswr hwn yn cynhyrchu gwerthusiad cynhwysfawr o effaith y cynnyrch o ran lliniaru arogleuon, atal pathogenau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) a’r dos a’r amlder sy’n ofynnol ar gyfer ychwanegu SforS.
Renewables United Ltd – Aeth ati’n uniongyrchol i fynd i’r afael â her allyriadau mewn amaethyddiaeth gydag arfer economi gylchol “EcoAmmonia”, gan eu trosi’n wrteithiau sy’n ystyriol o’r amgylchedd, cemegau gwyrdd, a ffynonellau ynni amgen.
Diolch a Da Iawn!
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r pum cyflenwr am eu gwaith caled, eu proffesiynoldeb a’u hymrwymiad drwy gydol y broses. O offer monitro newydd a thechnegau cymhwyso manwl-gywir i systemau dal allyriadau a dulliau rheoli ffermydd newydd, mae ystod ac ansawdd y datblygiadau arloesol a gyflwynwyd drwy’r her hon wedi bod yn eithriadol.
Mae eu hymroddiad a’u cydweithrediad wedi gwneud hwn yn brosiect nodedig sy’n enghraifft dda o effaith arloesedd a arweinir gan heriau wrth fynd i’r afael â heriau amgylcheddol cymhleth.
Dyfodol Disglair O’n Blaenau
Mae cwblhau’r arddangoswyr Cyfnod 2 hyn yn llwyddiannus yn nodi carreg filltir bwysig, gyda nifer o’r datblygiadau arloesol yn dangos potensial mawr ar gyfer mabwysiadu ehangach a budd amgylcheddol hirdymor. Edrychwn ymlaen at weld datblygiad y syniadau hyn wrth i ni barhau i weithio tuag at sector amaethyddol mwy cynaliadwy a gwydn yng Nghymru.
Diolch eto i bawb a gymerodd ran yn y gwaith – edrychwn ymlaen at rannu mwy o ganlyniadau a’r camau nesaf yn ystod y misoedd nesaf.
Dyma damaid i aros pryd – rhagor o fanylion maes o law!


