Rydym yn edrych ymlaen at rannu ychydig o newyddion mawr gyda chi – enw Canolfan Ragoriaeth SBRI bellach yw Contractau ar gyfer Arloesi Cymru!
Pam newid? Wel, roeddem eisiau enw sy’n dweud yn union beth rydym yn ei wneud, sef helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatrys heriau mawr drwy gydweithio ag arloeswyr drwy gontractau Ymchwil a Datblygu wedi’u hariannu. Rydym yn parhau i fod yr un tîm, gyda’r un genhadaeth a’r un gwerthoedd. Y cyfan sydd wedi newid yw ein henw, enw sy’n cyfleu’n well y ffordd rydym yn gweithio a’r effaith rydym yn falch o’i chyflawni ledled Cymru.
Rydym wedi bod yn brysur ers lansio yn 2018, yn cefnogi prosiectau sy’n torri tir newydd, fel:
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod diagnosis o ganser yn gynharach, sydd bellach ar waith ar draws chwe Bwrdd Iechyd.
- Helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i dreialu modelau gofal newydd yn eu cymuned.
- Cefnogi datblygu systemau i leihau allyriadau Entonox mewn gofal mamolaeth fel rhan o daith GIG Cymru i sero net.
- Datblygu dulliau diheintio ambiwlansys yn gyflym yn ystod pandemig COVID-19 – prosiect a enillodd Wobr Dewi Sant am Arloesedd i ni yn 2021!
Rydym yn gweithio’n agos â GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau a phrifysgolion i droi syniadau gwych yn ddatrysiadau ymarferol ar gyfer bywyd go iawn. Er bod ein henw wedi newid, nid yw ein gweledigaeth.
“Nid dim ond logo newydd yw hyn – mae’n ffordd gliriach i egluro’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig,” dywedodd Lynda Jones, Pennaeth Arloesi yn Sgil Heriau. “Byddwn yn parhau i hyrwyddo arloesedd cydweithredol ledled Cymru – o syniadau cynnar i ddatrysiadau a allai addasu i’r galw.”
P’un a ydych yn dîm y rheng flaen gyda her neu’n fusnes gyda chwip o syniad, rydym yma i’ch helpu i’w wireddu.
Diolch am fod yn rhan o’r daith hyd yma. Edrychwn ymlaen at bopeth sydd i ddod nesaf!


