Nifer Fawr o Heriau SBRI ar y Rhestr Fer yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2025

Rydym yn falch i fedru dweud bod nifer o brosiectau a gefnogir gan SBRI wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2025, gan gydnabod eu rhan mewn arwain creu system gofal iechyd fwy gwyrdd a gwydn drwy heriau arloesol.

1. e-Breathe (Her Nwyon SBRI)

Mae e-Breathe ‘N2O Clear’ yn tarddu’n uniongyrchol o’n Her Nwyon SBRI ac wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau “Gwelliant ac Arloesedd” a “Lledaenu a Datblygu”. Mae’r ateb arloesol hwn yn dal ac yn niwtraleiddio ocsid nitrus (N₂O) — nwy tŷ gwydr cryf — yn y lle y’i defnyddir. Trwy leihau allyriadau o ddefnyddio nwyon meddygol yn sylweddol, mae e-Breathe yn helpu darparwyr gofal iechyd i gyrraedd targedau amgylcheddol heb amharu ar ofal clinigol.

2. Natural UK (SBRI: Her yr Economi Gylchol)

Wedi’i gydnabod hefyd yn y categori “Gwelliant ac Arloesedd”, datblygwyd y prosiect hwn trwy ein Her Economi Gylchol SBRI. Mewn partneriaeth â BIP Cwm Taf Morgannwg, mae’r prosiect hwn yn ailystyried sut mae gwastraff clinigol yn cael ei reoli, gan archwilio adfer deunyddiau gwerthfawr o ffrydiau gwastraff gofal iechyd, hyrwyddo cylchredoldeb, a lleihau dibyniaeth ar dirlenwi neu losgi.

3. Datrysiadau Papur ELITE (Her Economi Gylchol SBRI)

Mae prosiect ELITE, sydd ar y rhestr fer o dan y categori “Gwelliant ac Arloesedd”, yn mynd i’r afael â her gwastraff ysbytai nad oedd yn ailgylchadwy cynt. Trwy ein Her Economi Gylchol SBRI, datblygodd ELITE broses i lanhau ac ailddefnyddio’r deunyddiau hyn, gan weithio gyda busnes bach o Gymru i’w dychwelyd i’r GIG fel cynhyrchion defnyddiadwy newydd – gan ddangos gwerth amgylcheddol a chymdeithasol trwy arloesedd.

Rydym wrth ein bodd i weld yr atebion arloesol hyn yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol, ac i ddathlu gwaith anhygoel ein partneriaid sy’n ymdrechu i wthio ffiniau mewn gofal iechyd cynaliadwy.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’n prosiectau her arloesedd neu os oes gennych broblem gofal iechyd sydd angen ei ddatrys, anfonwch neges atom i ddysgu sut allwch chi gymryd rhan neu i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau’n rheolaidd.

Cofrestrwch i’n rhwydwaith cydweithio

I gadw’n gyfredol gyda chyfleoedd cyllido, digwyddiadau a gweithio ochr yn ochr â phobl tebyg sydd â phasiwn go iawn am arloesi a gwella iechyd, cofrestrwch yma:

&