Roedd Canolfan Ragoriaeth SBRI Cymru yn falch i gynnal Sesiwn Sbotolau ar Arloesedd yn sgil Her yng Nghymru mewn partneriaeth â Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, yn sbarc|spark Caerdydd ddydd Mawrth, 12 Mawrth. Roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i arddangos rhai enghreifftiau o’r gwaith dylanwadol sy’n cael ei wneud mewn cydweithrediad â sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach ar hyd a lled Cymru.
Cynlluniwyd y sesiwn yn strategol i dynnu sylw at egwyddorion ac amcanion craidd y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI). Roedd wedi’i deilwra i’r cyd-destun Cymreig, ac yn benodol i’r ffordd mae SBRI yn gweithredu fel catalydd ar gyfer Ymchwil a Datblygu, gan hybu cydweithio i ganfod atebion arloesol pan nad yw atebion marchnad confensiynol yn ddigonol.
Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI Cymru yn cynnig cyfle gwerthfawr i fusnesau yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd yn eu dyddiau cynnar, i dderbyn cyllid a chefnogaeth. Mae’r fenter, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei gweinyddu o fewn BIP Betsi Cadwaladr, yn hybu datblygiad technoleg trwy ymgysylltu â busnesau’n uniongyrchol i fynd i’r afael ag anghenion sydd heb eu diwallu yn y sector cyhoeddus.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Rick Delbridge, Athro Dadansoddi Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd a chyflwyniadau gan bartneriaid yn y diwydiant, clinigwyr y GIG, arweinwyr o Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr academaidd, roedd y sesiwn yn gyfle i gael archwiliad traws-sector o’r potensial trawsnewidiol mae arloesedd yn sgil her yn ei gynnig.
Arddangoswyd Offer Diagnostig Patholeg gyda Chymorth AI sydd wedi cael ei ddefnyddio ar draws chwe bwrdd iechyd yng Nghymru gan Ibex Analytics. Mae’r canlyniadau’n dangos gwelliant sylweddol o ran canfod canser, mwy o hyder gan glinigwyr a gostyngiad yn y profion IHC costus.
Dywedodd Richard Nicholson, Cyfarwyddwr Masnachol yn Ibex:
“Dydw i ddim yn credu y gallwn ni orbwysleisio pa mor fuddiol mae rhaglen SBRI wedi bod i ni o ran pa mor gyflym roedden ni’n gallu symud ymlaen a’r cyfleoedd y mae wedi arwain atynt y tu allan i SBRI. Mae wedi arwain at bethau eraill ac mae SBRI yn cynnig y rhwydwaith hwnnw i chi, a’r amlygrwydd, ac mae cyfleoedd yn dod yn eu sgil, felly allwn ni ddim bod yn fwy diolchgar.”
Clywyd hefyd gan Victoria Mann, Prif Swyddog Gweithredol Near Me Now Ltd sydd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan SBRI, am ei thaith gyda’r Ganolfan a sut y mae wedi arwain at dwf ei chwmni ac at ennill contractau sector cyhoeddus. Yn ddiweddar fe’u dewiswyd i osod eu platfform digidol VZTA Town yn Wrecsam, a hynny yn wyneb cystadleuaeth gref iawn gan ddarparwyr gwasanaethau meddalwedd mawr. Dywedodd Vic: “Fyddem ni ddim wedi cyflawni’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni, ar y raddfa a’r cyflymder yr ydym wedi gwneud, oni bai am SBRI”.
Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI Cymru wedi ymrwymo i greu amgylchedd sy’n meithrin arloesedd ac yn cyflymu datblygiad technolegau trawsnewidiol. Tynnodd y Sesiwn Sbotolau sylw at y potensial a’r cyfleoedd a gynigir gan y rhaglen i’r sectorau preifat a chyhoeddus.
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad De Cymru, mae digwyddiad pellach wedi’i gynllunio ar gyfer yr haf yn rhanbarth Gogledd Cymru, a bydd dyddiadau a manylion yn cael eu cyhoeddi trwy sianeli SBRI dros yr wythnosau i ddod.


