Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn falch i dynnu sylw at stori lwyddiant arbennig gan un o’n cyn-enillwyr her —sef llunwyr platfform Trefi Smart VZTA NearMeNow. Mae’r hyn a ddechreuodd fel ymateb arloesol i’n Her Bywydau Gwell yn Agosach i Adref bellach wedi datblygu i fod yn gynllun dinas smart arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar strydoedd Wrecsam.
O’r Cysyniad i Ganol y Ddinas
Roedd NearMeNow yn un o nifer o fusnesau bach neu ganolig a dderbyniodd gefnogaeth drwy’r Her Bywydau Gwell yn Agosach i Adref. Y nod oedd datblygu atebion i wella mynediad at wasanaethau, manwerthu a chyfleoedd lles o fewn cymunedau lleol. Gyda chyllid SBRI, mireiniodd a threialodd NearMeNow eu platfform Trefi Smart VZTA — datrysiad digidol a gynlluniwyd i roi gwybodaeth weledol mewn amser real i fusnesau annibynnol a sefydliadau lleol trwy apiau integredig a seilwaith digidol.
Heddiw, mae’r hyn a oedd yn gysyniad cynt, bellach yn pweru menter newydd yn Wrecsam, lle mae rhwydwaith o sgriniau digidol ar draws canol y ddinas yn arddangos y wybodaeth ddiweddaraf ar gynigion arbennig, apwyntiadau a‘r hyn sy’n cael ei hyrwyddo gan fusnesau lleol. Mae’r dechnoleg yn caniatáu i fasnachwyr annibynnol gystadlu’n deg â manwerthwyr mwy drwy gynnig ffordd gyflym, hyblyg a fforddiadwy o gyrraedd cynulleidfaoedd lleol.
Model ar gyfer Trawsnewid Tref yn Ddigidol
Mae’r prosiect cyffrous hwn, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac a ariennir gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, yn adeiladu ar ap VZTA Wrecsam a lansiwyd yn 2024. Drwy integreiddio platfform VZTA â sgriniau digidol yng nghanol y ddinas, mae Wrecsam wedi creu stryd fawr ddeinamig, sydd wedi’i chysylltu’n ddigidol – ac wedi sefydlu ei hun yn arweinydd ar gyfer creu lleoedd digidol smart mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Cefnogi Arloesedd Cymru
Yng Nghanolfan Ragoriaeth SBRI, rydym yn gweithio’n frwd i gysylltu heriau’r sector cyhoeddus â busnesau arloesol. Mae’r stori lwyddiant hon yn enghraifft bwerus o sut y gall model SBRI ysgogi arloesedd lleol, mynd i’r afael â materion byd go iawn, a chyflwyno canlyniadau gwerthfawr i gymunedau.
Gwybodaeth bellach
Mae prosiect VZTA Wrecsam yn dangos yn glir gwerth SBRI wrth ddatblygu syniadau, galluogi prosiectau peilot, a helpu awdurdodau lleol i gofleidio atebion newydd.
I ddarllen mwy am y fenter hon yn Wrecsam, ewch i’r stori newyddion wreiddiol yma.


