Cyflwyniad
Ar 23 Mawrth 2020, mewn cam digynsail i geisio cyfyngu ar ledaeniad COVID-19, cychwynnodd cyfnod o gyfyngiadau symud yn y Deyrnas Unedig. Gofynnwyd i ni ‘aros gartref i amddiffyn y GIG’ yn ystod cynnydd yn nifer yr achosion o’r firws.
Roedd ein GIG yn wynebu bygythiad cynyddol yn sgil y brigiad a phwysau aruthrol ar wasanaeth a oedd eisoes dan bwysau. Yng Nghymru, adeiladwyd a sefydlwyd 19 o ysbytai maes i helpu i ymdopi â’r niferoedd posibl o gleifion heintiedig yr oedd angen eu derbyn i’r ysbyty.
Profodd y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru bwysau ychwanegol parhaus yn ystod y pandemig hefyd ac roedd nifer y galwadau a oedd yn gysylltiedig â COVID-19 yn aml yn fwy na 1,000 y dydd ym mis Mawrth ac Ebrill.
Yr her
Yn ystod y pandemig, eglurodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) fod yn rhaid glanhau ambiwlansys yn drylwyr ar ôl cludo claf yr amheuid fod COVID-19 arno. Gallai’r amser yr oedd ei angen i lanhau amrywio o 45 munud i 2 awr, a dan rai amgylchiadau, roedd yn rhaid eu cynnal mewn canolfannau glanhau arbenigol (mae rhai ohonynt yn eithaf pell o orsafoedd ambiwlansys neu ysbytai).
Achosodd hyn fwy o straen i wasanaeth a oedd eisoes yn brysur ac o dan bwysau oherwydd ni ellid defnyddio’r cerbydau nes byddai’r glanhau wedi’i gwblhau.
Roedd yr her yn ystyried nodi, datblygu ac arddangos technolegau diheintio cyflym i helpu timau WAST â’u brwydr yn ystod y pandemig.
Y Bobl
Trwy gydol y prosiect hwn, bu cydweithredu integredig â WAST, Canolfan SBRI a Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth y prosiect hefyd fanteisio ar sgiliau o adrannau eraill Llywodraeth y DU gan gynnwys Rhaglen Gyflymu Amddiffyn a Diogelwch a’r Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch.
Roedd pawb a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith yn wirioneddol awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn yn ystod cyfnod mor anodd a heriol, gan sicrhau, wrth fynd i’r afael ag anhawster oedd yn digwydd ar y pryd, bod unrhyw ddatrysiad yn ymarferol ac yn gyflawnadwy.
Galwad am gymorth gan Ddiwydiant
Cyhoeddwyd y galwad am gymorth gan ddiwydiant ar 25 Mawrth 2020 a byddai’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’u cais ymhen wythnos. Mynegwyd diddordeb aruthrol yn y prosiect. Er bod yr amser a oedd ar gael i gyflwyno cais yn fyr iawn, cadwyd 216 o geisiadau, ac fe wnaeth sefydliadau diwydiannol ac academaidd fynegi diddordeb. Daeth yn amlwg wrth werthuso’r cynigion bod diwydiannau yn hynod o awyddus i’n helpu ni i frwydro COVID-19.
Yn wir, fe wnaeth rhai ymgeiswyr gynnig ymgymryd â’r prosiect yn rhad ac am ddim.
O blith y 216 o geisiadau, dewiswyd 12 i brofi effeithiolrwydd eu datrysiadau gyda’r ar y cyd â’r Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch. Cwblhawyd y broses hon o fewn wythnos a dewiswyd 3 datrysiad i’w profi yn un o ambiwlansys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Y Canlyniadau
Cyflwynwyd un o’r datrysiadau gan Brifysgol Abertawe ac mae eu gwaith Ymchwil a Datblygu yn dal i barhau.
Aeth WAST ati i gydweithio a 2 o’r cyflenwyr gan wneud rhywfaint o waith datblygu ar y cyd 1 ohonynt a chynhaliwyd arddangosiad ar gyfer staff ar y cyd â’r cyflenwr arall. Ar hyn o bryd, mae WAST wrthi’n ysgrifennu achos busnes gan obeithio gallu caffael y datrysiadau hyn.
Cwblhaodd y Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch eu Hadroddiad Technegol a oedd yn cynnwys canfyddiadau’r broses o brofi’r 12 datrysiad. Er bod yr adroddiad hwn yn gyfrinachol, caniatawyd ei anfon at Gyrff Cyhoeddus a fyddai’n gofyn amdano.
Roedd cynnal yr her hon yn cynnig llawer o fanteision ac fe wnaeth amlygu sut y gall defnyddio technoleg ac arloeseddau helpu i wella arferion gwaith.
Dyma’r prif feysydd y gwnaeth y datrysiadau llwyddiannus ddylanwadu arnynt:
- Sicrhau gostyngiad o 86% yn yr amser sydd ei angen i lanhau ambiwlans.
- Sicrhau y caiff staff amser i ymgymryd â dyletswyddau eraill tra bydd y broses lanhau yn mynd rhagddi
- Sicrhau gostyngiad o 82% yng nghostau glanhau ambiwlans
- Gallu sicrhau ‘safon aur’ o ran glanhau
Y Gwersi a Ddysgwyd
Mae’r holl randdeiliaid sy’n rhan o’r prosiect hwn yn hynod o awyddus i ‘ddysgu a darganfod’ ac fe wnaiff hynny sicrhau y caiff y gwersi a ddysgwyd yn sgil prosiect hwn eu lledaenu y tu hwnt i wasanaethau ambiwlans. Mae prosiectau ar y gweill ym meysydd eraill o Lywodraeth Cymru yn sgil hyn, yn ystyried sut y gellir defnyddio’r gwersi a ddysgwyd mewn amgylcheddau eraill, e.e. Ysgolion.
Y Dyfodol
Felly a fyddem ni’n ymgymryd ag arloesedd SBRI cyflym arall? Byddem, ond byddai angen i’r amodau fod yn briodol ac ni chaiff datrysiad ei ddatblygu bob amser. I allu cyflawni’n gyflym, bydd angen i brosiectau fod bron yn barod i’w marchnata neu eu defnyddio mewn amgylcheddau diwydiannau eraill er mwyn gallu eu haddasu at ddibenion arloeseddau SBRI.
Bydd angen amser i gyflawni rhai arloeseddau, ac yn aml, bydd ar bobl yn y sector cyhoeddus angen datrys eu heriau yn ddi-oed, yn enwedig yn ystod pandemig. Byddai angen i Arweinwyr Heriau o’r Sector Cyhoeddus amlygu ymrwymiad a brwdfrydedd go iawn dros newid, ac roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn enghraifft berffaith o hynny.
Bydd arloeseddau SBRI tymor hwy yn caniatáu i’r Arweinwyr Heriau gydweithio’n iawn â phartneriaid mewn diwydiannau ac yn y byd academaidd i lunio a datblygu rhywbeth sy’n diwallu eu hanghenion mewn gwirionedd. Bydd hynny’n cynnig manteision cydweithio i bawb, yn defnyddio sgiliau unigryw a meysydd arbenigedd y naill a’r llall i wneud gwahaniaeth er gwell.
Y Canlyniadau
86%
Sicrhau gostyngiad yn yr amser sydd ei angen i lanhau ambiwlans.
82%
Sicrhau gostyngiad yng nghostau glanhau ambiwlans
‘safon aur’
Gallu sicrhau o ran glanhau
Mae’r Her Glanweithio Ambiwlansys yn Gyflym wedi ein galluogi i nodi technolegau addas i lanweithio ein fflyd yn fwy ystwyth a chyflym, gan gynnig mwy o sicrwydd am y broses. Mae hyn yn sicrhau bod ein staff a’n cleifion mor ddiogel â phosibl. Er nad wyddid llawer am Covid-19 ar ddechrau’r pandemig, mae’r broses werthuso gadarn y cafwyd cymorth yn ei chylch gan Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn wedi cynnig sicrwydd i ni am effeithiolrwydd y technolegau yn erbyn Covid-19.
Mae gweithio trwy bartneriaeth â Chanolfan Ragoriaeth SBRI, Llywodraeth Cymru, a’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi bod yn gatalydd sydd wedi galluogi’r gwaith hwn i gael ei gyflawni mor gyflym. Mae’r blaengaredd SBRI ‘cyflym’ hwn wedi ymateb i’r her – ac mae’n enghraifft wych o arloesi cydweithredol sydd wedi’i gyflawni’n gyflym.

