Telerau Defnyddio
Defnydd a Ganiateir
Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â’r wefan hon gyrchu deunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych chi’n cytuno i gadw at y telerau defnyddio.
Er y gellir cyrchu cynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil neu astudiaethau preifat neu ddefnydd mewnol), ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu nac ailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd perchennog y wefan / hawlfraint.
Mae’r delweddau, y logos a’r graffigynau a ddefnyddir ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu i drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb gael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint.
Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon yn eiddo i Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru (SBRI) a lle bo’n berthnasol, i drydydd parti cysylltiedig.
Gwybodaeth Bersonol
Pan fyddwch chi’n cyflwyno data adnabyddadwy yn wirfoddol ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflen adborth, holiaduron ac ati), ni ddefnyddir y wybodaeth a gyflwynir ac eithrio i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben bwriadedig. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y we â thrydydd partïon.
Amddiffyn rhag firysau
Byddwn yn gwneud ein gorau glas i archwilio a phrofi deunyddiau i sicrhau nad ydynt yn cynnwys firysau. Fodd bynnag, argymhellir y dylech redeg rhaglen atal firysau i archwilio unrhyw ddeunyddiau a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, tarfu neu ddifrod i’ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Ymwadiad
Rydym yn ymorol i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig, a byddwch yn ei ddefnyddio ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy’n deillio o unrhyw weithred neu gamgymeriad sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.
Gwefannau Allanol
Nid yw Contractau ar gyfer Arloesi Cymru (SBRI) yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor sydd wedi’i gynnwys ar wefannau o’r fath. Ni ddylid cymryd rhestru fel cymeradwyaeth o unrhyw fath.
Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac ni allwn ni reoli argaeledd y tudalennau cysylltiedig nac unrhyw newidiadau i gyfeiriadau gwefannau,
Mae gan Gontractau ar gyfer Arloesi Cymru (SBRI) yr hawl i wrthod neu ddileu dolenni at unrhyw wefan.
Nodwedd Google Translate
Mae gwefannau GIG Cymru y mae Nodwedd Google Translate wedi’i alluogi ynddynt yn cynnig cyfieithiadau a wneir gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru unrhyw reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi’u cyfieithu yn rhan o’r wefan a gynhelir, ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddolen at barth GIG Cymru.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad cyfrifiadurol awtomataidd, ac o’r herwydd, ni fydd yn gyfieithiad perffaith a bydd yn dueddol o gynnwys camgymeriadau na fyddai siaradwr o gig a gwaed yn eu gwneud fel arall. Dylid defnyddio’r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid yw GIG Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac unrhyw golled a achosir o ganlyniad iddynt.
Addasiadau yn y Dyfodol
Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.