Mae’n bleser gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI gyhoeddi bod contractau wedi’u dyfarnu i bum cyflenwr arloesol fel rhan o Her Canser SBRI, sef prosiect cydweithredol trawsffiniol a chyffrous, y cyntaf o’i fath, rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon.
Mae’r her uchelgeisiol hon wedi’i dylunio i gefnogi datblygiad technolegau, offer a dulliau newydd a all wella’r broses o ganfod, diagnosio a thrin canser yn gynnar. Mae’n nodi cam sylweddol ymlaen mewn arloesi iechyd cydweithredol, gan ddod ag arbenigedd, gwasanaethau ac arloeswyr o’r ddwy genedl ynghyd mewn cenhadaeth gyffredin i fynd i’r afael ag un o’r heriau gofal iechyd mwyaf enbyd ein hoes.
Dathlu Arloesedd a Chydweithrediad
Hoffem longyfarch pum cyflenwr llwyddiannus, y dangosodd eu syniadau a’u cynigion potensial gwirioneddol i wneud gwahaniaeth ystyrlon i ganlyniadau cleifion a llwybrau gofal canser.
Mae’r her hon yn adlewyrchu’r gorau o’r hyn y gall arloesedd a arweinir gan heriau ei gyflawni, gan harneisio creadigrwydd ac arbenigedd busnesau a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i gyd-ddatblygu datrysiadau i broblemau cymhleth yn y byd go iawn.
Cyflenwyr
- Cyted Health: Canfod clefydau’n gynnar gan ddefnyddio technoleg ddiagnostig nad yw’n endosgopig Cyted Health
- IBEX Medical Analytics Ltd: Diagnosteg wedi’i phweru gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer patholeg sy’n trawsnewid patholeg trwy sicrhau bod pob claf yn derbyn diagnosis canser cywir, yn brydlon ac yn bersonol
- CanSense Ltd: Mae cwmni CanSense o Gymru ar flaen y gad o ran trawsnewid diagnosis canser y coluddyn gyda phrawf cyflym, cost-effeithiol a allai ehangu’n gyflym sy’n manteisio ar fodelu sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI)
- Qure AI Technologies Ltd: Mae’n cynnwys asesiadau byd go iawn o algorithmau sganiau pelydr-X o’r frest (qXR) a sganiau CT o’r frest (qCT) Qure i gynyddu cyflymder ac effeithlonrwydd wrth ddosbarthu a blaenoriaethu cleifion yr amheuir bod ganddynt Ganser yr Ysgyfaint gan ddefnyddio AI
- Future Perfect Healthcare Ltd: Datblygu cofrestrfa cyn-ganser ar draws y boblogaeth a fydd yn nodi cleifion sydd mewn perygl gan ddefnyddio profion genomeg ar diwmorau a data clinigol·
Cyfnodau Cyffrous o’n Blaenau
Rydym yn hynod gyffrous o weld yr ymyriadau hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf. Mae pob prosiect yn cynrychioli cyfle newydd i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau canser, ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu cynnydd wrth i’r timau symud trwy’r camau datblygu nesaf.
Diolch yn fawr i bob un o’n cleifion yng Nghymru a Gogledd Iwerddon sydd wedi gwneud y prosiect cydweithredol arloesol hwn yn bosibl. Gyda’n gilydd, rydym yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach ac iachach ar gyfer cymunedau ar draws y ddwy genedl.
Dyma damaid i aros pryd – mae mwy o fanylion i ddod!


