
Cefnogi Busnes ac Arloesi Ymchwil
Contractau ar gyfer Arloesi, a elwid yn flaenorol yn Fenter Ymchwil Busnesau Bach
Mae Contractau ar gyfer Arloesi Cymru (a elwid yn flaenorol yn Fenter Ymchwil Busnesau Bach neu FYBB) yn helpu sefydliadau’r sector cyhoeddus i ddatrys heriau cymhleth drwy gynnig cyfle ariannu cystadleuol er mwyn datblygu a mabwysiadu datrysiadau a thechnolegau newydd. Er bod ein henw wedi newid, mae’r gwasanaethau rhagorol rydym yn eu cynnig yn aros yr un fath a chânt eu hesbonio yn y fideo byr hwn.

















